Chwech yn ceisio cyrraedd y brig

Cystadleuwyr Rhodri, Gareth, Steffan, Chloe, Trystan a Dion oedd y chwech fu'n cystadlu am y wobr

Straeon Perthnasol

Mae chwech o berfformwyr ifanc yn paratoi i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel mewn cyngerdd yn Aberystwyth heno.

Daethant i gyd i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro ac maen nhw'n barod i geisio cyrraedd y lefel nesaf gan ennill gwobr o £4,000 yn y broses.

Cafodd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel ei sefydlu nôl yn 1999 ac mae'r wobr yn cael ei roi er mwyn "meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru".

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a bydd darllediad byw o'r noson i'w weld ar S4C.

Cyn-enillwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel

  • 2012: Eryri - Huw Ynyr Evans
  • 2011: Abertawe a'r Fro - Glain Dafydd
  • 2010: Ceredigion - Elgan Llyr Thomas
  • 2009: Bae Caerdydd - Catrin Angharad Roberts
  • 2008: Conwy - Rhian Lois Evans
  • 2007: Sir Gâr - Manon Wyn Williams
  • 2006: Sir Ddinbych - Rhys Taylor
  • 2005: Canolfan Mileniwm Cymru - Lowri Walton
  • 2004: Ynys Môn - Rakhi Singh
  • 2003: Tawe Nedd ac Afan - Aled Pedrig
  • 2002: Caerdydd - Rhian Mair Lewis
  • 2001: Toriad oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau
  • 2000: Bro Conwy - Fflur Wyn
  • 1999: Llanbedr Pont Steffan - Mirain Haf
'Safon uchaf'

Yn ystod y noson bydd y chwech yn perfformio rhaglen 12 munud o hyd a bydd yr enillydd yn cael ei ddyfarnu gan banel o arbenigwyr.

Mae ystod eang o sgiliau gwahanol gan y cystadleuwyr - o ganu unawd i ddawnsio gwerin.

Dywedodd Bryn Terfel: "Rwyf yn teimlo'n gryf y dylai talent ifanc Cymreig gael ei feithrin a'i gefnogi, a gyda chymaint o dalent yma, mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn cael y cyfleoedd maent yn eu haeddu.

"Mae'r chwech cystadleuydd ar gyfer yr ysgoloriaeth o'r safon uchaf eto eleni, o ystod o feysydd gwahanol ac er na allaf fod yno fy hunan oherwydd ymrwymiadau gwaith, mi fyddaf yn dilyn y gystadleuaeth yn agos."

'Hynod dalentog'

Start Quote

Mae gennym chwech unigolyn hynod dalentog yn cystadlu am yr ysgoloriaeth eleni, ac mae eu brwdfrydedd a'u hawydd i ennill yn amlwg”

End Quote Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd

Y cystadleuwyr a'u campau yw:

  • Chloe Angharad-Bradshaw o Hengoed, Cwm Rhymni - Unawd Offerynnol;
  • Gareth Davies o San Clêr ger Caerfyrddin - Unawd allan o Sioe Gerdd;
  • Dion Davies o Gastell Newydd Emlyn - Cyflwyniad Theatrig;
  • Trystan Gruffydd o Bontypridd - Dawns Werin Unigol i fechgyn;
  • Steffan Rhys Hughes o Langwyfan ger Dinbych - Unawd Cerdd Dant, Llefaru a Cyflwyniad Alaw Werin;
  • Rhodri Prys Jones o Lanfyllin - Unawd.

Dywedodd Aled Siôn, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae gennym chwech unigolyn hynod dalentog yn cystadlu am yr ysgoloriaeth eleni, ac mae eu brwdfrydedd a'u hawydd i ennill yn amlwg.

"Roedd y dosbarthiadau meistr yng Nghaerdydd ddiwedd Awst yn gyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd, cael arweiniad gan arbenigwr yn y maes ac yn gyfle iddynt ymarfer y darn ar y cyd."

Huw Ynyr Evans wnaeth ennill y gystadleuaeth y flwyddyn ddiwethaf - gallwch ddarganfod pwy fydd yn ennill y flwyddyn hon drwy wylio'r rhaglen yn fyw ar S4C.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.