Siwrne drên gyflymach o'r gogledd i'r de

Trên First Great Western Bydd y cynllun yn arbed 16 munud ar y daith rhwng y gogledd a'r de

Straeon Perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £44m i wella'r rheilffordd rhwng gogledd a de Cymru, yn ogystal â chysylltiadau i Wrecsam.

Dywedodd y Gweinidog Cludiant Edwina Hart y byddai'r buddsoddiad yn cyflymu amser teithio rhwng pob pen i'r wlad ac yn galluogi rhagor o drenau i deithio rhwng Wrecsam a Chaer.

Yn dilyn adolygiad, cafodd y cynllun £44m ei gytuno ar y cyd gyda Network Rail ac mae disgwyl iddo ddod i rym erbyn gwanwyn 2015.

O dan ei newydd wedd, mae'r cynllun yn cynnwys dyblu maint y trac presennol rhwng Wrecsam a Chaer a gwneud y cysylltiad yn gyflymach. Honnir y byddai hyn yn arbed 16 munud ar siwrne rhwng y gogledd a'r de.

Meddai Mrs Hart: "Rwy'n hapus iawn ein bod wedi gallu cytuno ar y cynllun hwn; bydd yn cwtogi ar amser y daith rhwng gogledd a de Cymru a bydd yn cynyddu'r capasiti rhwng Wrecsam a Chaer.

"Bydd y cynllun newydd hwn yn bodloni ein hamcanion ac yn rhoi gwerth am arian. Bydd yn sicrhau bod mwy o bobl gogledd ddwyrain Cymru'n gallu manteisio ar gysylltiadau rheilffordd well â gweddill Cymru sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru."

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru: "Mae hyn yn newydd gwych i'r rhanbarth ac yn dod o ganlyniad i bwysau parhaol ar y Gweinidog i sicrhau fod y cynlluniau ar gyfer gwelliannau i'r rheilffordd yn cael eu cyflawni.

"Roedd y sôn diweddar am adolygiad wedi achosi cryn bryder ynghylch a fyddai'r cynllun yn cael ei wireddu, ond rwyf wrth fy modd gyda'r newydd."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.