'Cyfraniad rhagorol'

Dewi Llwyd Roedd yn cyflwyno prif raglen Newyddion BBC Cymru ar S4C am dros 30 mlynedd.

Straeon Perthnasol

Daeth rhai o sêr y diwydiant ffilm a theledu at ei gilydd yng Nghaerdydd nos Sul ar gyfer noson wobrwyo BAFTA Cymru, gydag un o enwau cyfarwydd BBC Cymru yn cael ei anrhydeddu.

Dewi Llwyd enillodd y Wobr Arbennig am Gyfraniad Rhagorol i Deledu. Bu'n cyflwyno prif raglen Newyddion BBC Cymru ar S4C am dros 30 mlynedd.

Wedi'r seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, dywedodd y cyflwynydd: "Ma' pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod 'mod i'n teimlo fod gwaith tîm yn hollbwysig a lle mae'r holl raglenni 'ma yn y cwestiwn, o'r dechreuadau hyd at heddiw, ma' gwaith tîm yn dyngedfennol ac yn sail i bob dim da ma' rhywun yn ei wneud.

"Dwi ddim wedi gorffen eto. Dwi'n mawr obeithio bod 'na fwy i ddod. Ond, yn y cyfamser, mae'n rhaid i mi ddweud 'mod i wedi cael pleser aruthrol heno."

'Cryf iawn'

ENILLWYR 2013

  • Drama Deledu - Stella
  • Darllediadau'r Newyddion - Newyddion - Y Gemau Olympaidd
  • Materion Cyfoes -Y Byd ar Bedwar - Marwolaethau Cyffuriau Môn
  • Cyfres Ffeithiol - Great Welsh Writers - Ian Michael Jones
  • Dogfen Sengl - Gerallt - Angharad Elen
  • Rhaglen Cerddoriaeth ac Adloniant - Côr Cymru - Corau Plant
  • Rhaglen Chwaraeon a Darllediadau Allanol - Y Sioe 12
  • Rhaglen Blant yn cynnwys animeiddio - Dwylo'r Enfys - Nia Ceidiog
  • Ffurf Byr ac Animeiddio - No Playground For Little Cowboys - Carl Rock
  • Effeithiau Gwledol a Graffeg - Bla Bla Blewog
  • Dylunio Gwisgoedd - The Machine - Chrissie Pegg
  • Golygu - Stella - Sara Parry Jones
  • Cyfarwyddwr Ffuglen - The Indian Doctor - Lee Haven Jones
  • Cyfarwyddwr Ffeithiol - Fy Chwaer a Fi - Mei Williams
  • Ffotograffiaeth a Goleuo - Alys - Richard Wyn
  • Ffotograffiaeth Ffeithiol - Catherine and Kirstie Beyond Words - Mei Williams
  • Dylunio Cynhyrchiad Sherlock - Arwel Wyn Jones
  • Coluro a Gwallt - Sherlock - Meinir Jones-Lewis
  • Cerddoriaeth Wreiddiol - The Machine - Tom Raybould
  • Sain - The Gospel of Us - Sound Team
  • Awdur - Stella - Ruth Jones
  • Actor - Michael Sheen - The Gospel of Us
  • Actores - Sara Lloyd-Gregory - Alys
  • Cyflwynydd - Huw Edwards - The Story of Wales
  • Gwobr Torri Drwodd - Gwion Lewis - Cymdeithas yr Iaith yn 50
  • Gwobr Gwyn Alf Williams - The Story of Wales
  • Tlws Sian Phillips - Julie Gardner
  • Gwobr Cyflawniad Arbennig ar gyfer Ffilm - The Machine - John Giwa-Amu
  • Gwobr Arbennig am Gyfraniad i Deledu - Dewi Llwyd

Sara Lloyd-Gregory enillodd wobr yr Actores, am ei phortread o Alys yn y gyfres ar S4C.

"O'n i'n ffili credu fe," meddai. "O'dd pobl yn dweud o'n nhw 'di gweld gwyneb fi pan o'n i'n cerdded lawr... o'n i jyst yn geg agored... fy enwebiad cynta' i, yn erbyn Ruth Jones a Mali Harries, categori cryf iawn, fi'n hollol gyffrous amdano fe."

Cafodd Michael Sheen ei ddewis fel yr Actor gorau, am ei rôl yn 'The Gospel of Us', y fersiwn deledu o'r ddrama 'The Passion'.

Roedd hi'n noson dda i gwmnïau teledu annibynnol. Enillodd cyfres 'Stella', gan Tidy Productions, dair gwobr gan gynnwys y Ddrama Deledu orau, a daeth Ruth Jones i'r brig yng nghategori'r Awdur gorau.

Gemau Olympaidd

Daeth llwyddiant i dîm Newyddion BBC Cymru yn y categori Rhaglen Newyddion orau am y darllediadau o'r Gemau Olympaidd y llynedd.

Aeth y wobr i'r Cyfarwyddwr Ffuglen gorau i The Indian Doctor, sydd yn cael ei gynhyrchu gan Rondo Media ac Avatar Productions.

Mei Williams gafodd y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau Ffeithiol a hynny am y rhaglenni dogfen a ymddangosodd ar S4C, Fy Chwaer a Fi - sef stori dwy chwaer sydd yn dioddef gyda chyflwr niwrolegol.

Cafodd y bargyfreithiwr Gwion Lewis ei anrhydeddu am ei waith ar raglen 'Cymdeithas yr Iaith yn 50'.

Cipiodd Huw Edwards wobr y Cyflwynydd gorau am gyfres 'The Story of Wales'.

Y rhaglen honno enillodd Wobr Alf Williams hefyd, sef y wobr sydd yn cael ei rhoi i raglen neu gyfres sydd wedi cyfrannau at werthfawrogiad o hanes Cymru.

Rhoddwyd Gwobr Siân Phillips i Julie Gardner, y cynhyrchydd o Gymru fu'n gyfrifol am adfywio'r gyfres deledu boblogaidd Doctor Who yn 2005 ac roedd hi wedi teithio o Los Angeles i Gaerdydd i dderbyn y wobr.

Y cyflwynydd Matt Johnson a'r newyddiadurwraig Siân Lloyd oedd yn cyflwyno'r seremoni nos Sul.

2 Hydref 2013: Yn ddiweddarach dywedodd Bafta Cymru eu bod wedi cyhoeddi ar gam fod Newyddion wedi ennill yng nghategori'r rhaglen newyddion orau. Fe ddylai'r wobr fod wedi mynd i raglen ITV Wales, Wales Tonight am eu sylw i'r chwilio am April Jones.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.