'Caethwasiaeth': heddlu'n arestio pedwar

Yr heddlu Yr heddlu'n archwilio'r safle yn ardal Maerun

Mae'r heddlu wedi arestio pedwar fel rhan o ymchwiliad ehangach i gaethwasiaeth.

Roedd cyfres o gyrchoedd gan dros 100 o blismyn.

Aed â dyn o ddwyrain Ewrop i'r ysbyty lle mae'n cael ei asesu mewn uned feddygol.

Roedd yr ymchwiliad yn sgil dod o hyd i ddyn mewn amgylchiadau gwael ym Maerun ger Casnewydd yn gynt eleni.

Amgylchiadau gwael

Mae'r awdurdodau'n amau bod pobl wedi cael eu gorfodi i weithio'n ddi-dâl mewn amgylchiadau gwael.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio a gafodd corff ei gladdu ar dir fferm.

Yn ogystal ag ardaloedd Maerun a Phen-hŵ ar gyrion ardal Casnewydd roedd cyrch yng Nghaerdydd.

Yn gynt eleni roedd yr heddlu wedi dod o hyd i ddyn 43 oed Darrell Simester o Kidderminster oedd wedi bod ar goll am 13 o flynyddoedd.

Y pedwar gafodd eu harestio oedd dyn 66 oed a dyn 42 oed o ardal Maerun, dyn 36 oed o Gaerdydd a dynes 42 oed o ardal Pen-hŵ.

'Cam diweddara''

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths: "Heddiw yw'r cam diweddara' mewn ymchwiliad hir dymor i honiadau o gaethwasiaeth.

"Fe ddechreuodd yr ymchwiliad pan gafwyd hyd i ddyn 43 oed yn byw mewn amodau gwael ar y safle ym Maerun.

"Roedd y dyn wedi bod ar goll o'i deulu am 13 o flynyddoedd.

"Ers hynny mae tîm o dditectifs wedi bod yn ymchwilio i weld a oedd hyn yn rhan o gynllwynio troseddol ehangach.

"Yn ogystal a honiadau o gaethwasiaeth rydym hefyd yn ymchwilio i dystiolaeth fod corff wedi ei gladdu ar y safle."

Mae Hedldu Gwent yn gweithio ar y cyd gyda'r Asiantaeth Ymchwilio i Droseddau Difrifol (SOCA), Y Ganolfan Masnachu mewn Pobl, yr RSPCA a'r Groes Goch.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.