Cymru: Annibyniaeth neu uno â Lloegr?

Roger Scully Mae'r Athro Scully yn credu mai'r ymgyrch Na fydd yn fuddugol - ond ddim o lawer

Gallai Cymru wynebu'r dewis o annibyniaeth neu integreiddio'n llawn gyda Lloegr petai'r Alban yn pleidleisio Ie yn refferendwm 2014, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd yr Athro Roger Scully ei fod yn credu na fyddai gan Loegr lawer o gymhelliad i gytuno i fod yn rhan o Deyrnas Gyfunol na fyddai'n cynnwys yr Alban.

Roedd Senedd yr Alban yn trafod "dyfodol yr Alban" ddydd Mercher.

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd oedd yn trafod y refferendwm, amlinellodd Mr Scully beth fyddai oblygiadau'r canlyniad i Gymru.

Start Quote

Gallai Cymru wedyn gael dewis na fyddai hi eisiau sef integreiddio'n llawn ac yn derfynol i mewn i Loegr ... neu fynd ei ffordd ei hun.”

End Quote Yr Athro Roger Scully Prifysgol Caerdydd

Dywedodd fod tri phosibiliad sef y garfan Ie yn ennill, y garfan Na yn ennill ond bod y bleidlais yn agos, neu fwyafrif clir yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

Annibyniaeth?

Barn Mr Scully, sy'n gweithio i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yw y gallai pleidlais o blaid annibyniaeth arwain at sefyllfa lle na fyddai dymuniad y rhan fwyaf o Gymry,hynny yw meddu ar bwerau datganoledig mewn rhai meysydd, yn bosibl.

"Pa gymhelliad fyddai gan Loegr i barhau i fodoli mewn gwlad gyda'r rhannau fyddai'n weddill o'r Deyrnas Unedig - Gogledd Iwerddon a Chymru?

"Mae'r Alban wedi bod am amser hir yn wlad sydd o werth sylweddol i Brydain Fawr gyda gwerth mawr o ran diogelwch ac adnoddau naturiol.

"Dydi o ddim yn anodd gweld sefyllfa lle byddai undeb gyda Gogledd Iwerddon a Chymru ddim yn ddymunol o safbwynt Seisnig.

"Dydi o ddim y tu hwnt i ddychymyg i weld sefyllfa ... lle byddai'r Saeson yn teimlo dicter eu bod ddim yn cael eu cynrychioli'n iawn, a'u bod yn teimlo bod gwledydd eraill yn cael manteision annheg o fewn y DU.

"Mae'n hawdd dychmygu symudiad gwleidyddol o fewn Lloegr yn ceisio gwahanu o Ogledd Iwerddon.

"Gallai Cymru wedyn gael dewis na fyddai hi eisiau sef integreiddio'n llawn ac yn derfynol i mewn i Loegr - gan roi'r gorau i'r 'nonsens' o ddatganoli a'r iaith Gymraeg - neu fynd ei ffordd ei hun."

Siarad yn goeglyd oedd Mr Scully wrth alw datganoli a'r iaith Gymraeg yn nonsens ond roedd yn llwyr o ddifri o ran y posibiliad o'r dewis allai wynebu Cymru.

'O blaid y deyrnas'

O ran beth fyddai'n digwydd pe bai'r Alban yn dweud Na cadarn iawn - gyda 60% yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth - gallai Mr Scully ragweld sefyllfa lle byddai'r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli'n cryfhau.

"Os yw'r bleidlais o blaid o dan 40% yn amlwg bydd yr ymgyrch dros annibyniaeth nid yn unig wedi cael ei threchu ond wedi ei threchu'n bendant," meddai'r Athro Scully.

"Yn y sefyllfa yno bydd yr SNP a'i chynghreiriaid yn yr Alban yn ei chael hi'n anodd cynnal y ddadl dros fwy o bwerau i Holyrood a dyw hi ddim yn anodd dychmygu twf newydd o blaid y deyrnas.

"Byddai'r lleisiau yna sydd ar hyn o bryd yn ddistaw ac yn ynysig, y lleisiau sydd yn galw am rolio datganoli yn ôl, yn gweld eu hunain yn dod yn fwyfwy poblogaidd."

Mwy o bwerau

Ond y sefyllfa sy' fwyaf tebygol ar hyn o bryd, meddai, fyddai pleidlais Na o fwyafrif bach.

Dywedodd yr Athro Scully pe bai'n gorfod betio, y byddai'n rhoi ei arian ar yr ymgyrch Ie yn ennill rhwng 51% a 59% o'r bleidlais.

Gallai hynny arwain at un o ddwy sefyllfa, Llywodraeth y DU un ai yn caniatáu pwerau ychwanegol i Senedd yr Alban neu'n gwrthod gwneud hynny er iddyn nhw awgrymu y bydden nhw'n fodlon.

"Byddai'r senarios hyn yn amlwg yn golygu oblygiadau i Gymru - byddai buddugoliaeth Na agos wedi ei dilyn gyda chaniatáu mwy o bwerau i'r Alban yn golygu y byddai'r broses o newid cyfansoddiadol o fewn y DU yn parhau.

"Byddai angen i Gymru geisio gwneud ei hun yn rhan o hyn ... ond byddai pleidlais Na agos gyda llywodraeth y DU yn gwrthod rhoi pwerau ychwanegol yn cael effaith sylweddol ar Gymru, gan y byddai perthynas yr Alban o fewn y DU yn fater fyddai heb ei setlo.

"Yn amlwg, byddai Cymru yn ceisio chwarae rhan yn y materion hyn ond byddai'n debygol o fod yn bennaf yn derbyn y canlyniad yn hytrach na chwarae rhan yn y trafodaethau.

"Ni fyddai Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn cysylltiad â'r penderfyniadau allweddol."

Bydd y refferendwm yn cael ei chynnal ar Fedi 18 2014.

Mwy Am y Stori Hon

Refferendwm yr Alban

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.