Angladd April Jones yr wythnos nesa' ym Machynlleth

Adroddiad Craig Duggan

Straeon Perthnasol

Bydd angladd April Jones yn cael ei gynnal am hanner dydd ar Fedi 26.

Yn Eglwys Pedr Sant ym Machynlleth y bydd yr angladd.

Ddydd Llun roedd gwrandawiad fel bod modd i'r crwner gyhoeddi tystysgrif marwolaeth.

Cadarnhaodd yr heddlu y byddai gweddillion y ferch bum mlwydd oed yn cael eu rhyddhau'n swyddogol i'r teulu.

Casgliad

Dywedodd y crwner Louise Hunt nad oedd hi'n gallu dod i unrhyw gasgliad gwahanol i'r hyn oedd wedi'i gyflwyno yn yr achos llys.

Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at rieni April i egluro penderfyniad y llys.

Roedd y gwrandawiad yn Siambr y Cyngor yn y Trallwng ac wedi'i gwblhau mewn 10 munud.

Aeth April ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.

Ym mis Mai eleni cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am ei chipio a'i llofruddio.

Fydd o byth yn cael ei ryddhau o'r carchar.

Paul ac April Jones yn y gwrandawiad yn Y Trallwng ddydd Llun Roedd y gwrandawiad ddydd Llun yn paratoi'r ffordd i rieni April, Paul a Coral Jones, drefnu angladd eu merch
Olion asgwrn

Dyw corff y ferch fach erioed wedi cael ei ddarganfod er gwaethaf yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain.

Ond llwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddarganfod olion bychain o asgwrn yng nghartre' Bridger.

Mae adroddiadau y bydd cais i alarwyr yn yr angladd wisgo pinc, hoff liw April.

Wedi'r gwrandawiad dywedodd y crwner Louise Hunt ei bod yn gobeithio y byddai'n rhoi rhywfaint o gysur i'r teulu.

"Rwy'n cydymdeimlo â chi yn eich colled ofnadwy," meddai.

"Fydd yna ddim rhagor o wrandawiadau ffurfiol ac rwy'n gobeithio y bydd diwedd hyn yn rhoi amser i chi ddelio gyda'ch galar."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.