Cwest: Cwch yn taro aelod llu awyr o'r Feliheli

Scott Hughes Scott Hughes: Yn nofio yn y dŵr

Straeon Perthnasol

Mae cwest milwrol wedi clywed sut y bu farw aelod o'r llu awyr wedi i gwch modur cyflym ei daro ar arfordir Ynys Cyprus yn 2010.

Clywodd Crwner Gogledd-Orllewin Cymru Nicola Jones fod Scott Hughes, 20 oed o'r Felinheli yng Ngwynedd, newydd adael Afghanistan wedi cyfnod o chwe mis ar ddyletswydd.

Mae disgwyl i'r cwest yn Llandudno bara am bum diwrnod.

Roedd ei uned, oedd yn cynnwys rhyw 100 o aelodau, newydd gyrraedd Cyprus ar gyfer ychydig ddyddiau o hamddena cyn dychwelyd adref.

Cafodd y milwr anafiadau dychrynllyd oherwydd y ddamwain yng nghanolfan hyfforddi milwrol Episkopi.

Ar y pryd roedd yn nofio i'r lan ac roedd nifer ar y lan wedi rhybuddio ei fod yn y dŵr.

Bu farw dau ddiwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Cyffredinol Limassol ar Dachwedd 7.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.