Haf yn hwb i löynnod byw yng Nghymru

Glesyn Cyffredin Mae'r Glesyn Cyffredin, sy'n gyffredin ar arfordir gogledd a gorllewin Cymru, wedi ffynnu eleni

Straeon Perthnasol

Wedi haf poeth mae'n ymddangos bod llawer mwy o fathau o löynnod byw yng Nghymru.

Daw hyn wedi cyfres o flynyddoedd gwael.

Roedd y tywydd poeth ym misoedd Gorffennaf ac Awst yn hwb a dywedodd yr Ymddiriedolaeth Glöynnod Byw fod pedair gwaith yn fwy na'r llynedd.

Mae eu hymgyrch ar draws y DU ac roedd 2037 - fwy nag erioed o'r blaen - wedi cymryd rhan yng Nghymru, gan gyfri 33,000 o löynnod byw.

Roedd y sefyllfa'n debyg ar draws y DU.

2012 oedd y flwyddyn waetha' i'r creaduriaid oherwydd yr holl law wedi cyfres o hafau siomedig.

Mwy nag erioed

Ond roedd yr amodau yn berffaith ar eu cyfer eleni a chafodd mwy nag erioed eu cyfri mewn gerddi, parciau a chefn gwlad ar draws y DU.

Roedd y cynnydd mwya' ymhlith math y Paun ac mae niferoedd y Vanessa atalanta, neu'r Llyngesydd Coch, sydd i'w weld yn aml mewn gerddi, wedi bron treblu.

Start Quote

Nid y tywydd anwadal yw'r broblem fwya' sy'n eu hwynebu ond y ffordd ry'n ni'n rheoli'n hamgylchedd”

End Quote Russel Hobson Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru

Mae'r Glesyn Cyffredin (Polyommatus icarus), sy'n gyffredin ar arfordir gogledd a gorllewin Cymru, hefyd wedi ffynnu yng Nghymru, gan gynyddu dros 300% o'i gymharu ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn gyffredinol, roedd 17 o'r 21 math o löyn byw yng Nghymru wedi cynyddu yn 2013 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac roedd niferoedd 15 ohonyn nhw wedi cynyddu o leia' 50%.

Ond mae rhai rhywogaethau wedi lleihau eleni - gan gynnwys y Gwibiwr Mawr (Ochlodes sylvanus), a wnaeth yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda niferoedd yn gostwng 63%.

'Haf cofiadwy'

Dywedodd Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru: "Mae pawb yn dweud fod yr haf yn gofiadwy iawn i loÿnnod byw.

"Diolch i'r miloedd sydd wedi helpu gyda'r ymgyrch gyfri sydd wedi profi unwaith eto'n ffordd wych o weld sut mae poblogaeth gloÿnnod byw Cymru yn ei wneud.

"Mae'n ein hatgoffa bod gloÿnnod byw yn gallu dod yn ôl os yw'r tywydd yn dda a'r cynefin yn addas. Nid y tywydd anwadal yw'r broblem fwya' sy'n eu hwynebu ein ond y ffordd ry'n ni'n rheoli'n hamgylchedd.

"Ac mae'r gefnogaeth wych i'r ymgyrch eleni yn dangos bod y cyhoedd yn poeni am fywyd gwyllt ac yn barod i wneud rhywbeth i helpu'r dirywiad tymor hir."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.