Non Stanford yw Pencampwraig Triathlon y Byd 2013

Non Stanford yn ennill y triathlon yn Llundain Llwyddodd Non Stanford i ennill yn Llundain er iddi gael ei chosbi am 15 eiliad wedi'r ras nofio

Straeon Perthnasol

Mae'r Gymraes Non Stanford wedi cael ei choroni'n Bencampwraig Triathlon y Byd ar ôl ennill ras y merched yn Rownd Derfynol y gyfres yn Llundain fore Sadwrn.

Llwyddodd i oresgyn anfantais o 15 eiliad o gosb am beidio â rhoi ei gwisg nofio yn y bocs.

Ond perfformiodd yn wych yn y ras redeg, gan orffen mewn 2:01.33, a chwblhau'r gyfres gyda 4220 o bwyntiau.

Cyn y ras, roedd y ferch 24 oed o Abertawe yn drydedd yn y gyfres ar ôl llwyddiannau yn y rowndiau blaenorol, gan gynnwys ennill y gyfres ym Madrid ym mis Mehefin.

Ond roedd hi'n dynn iawn cyn y ras derfynol hollbwysig yn Llundain, gyda'r Americanes Gwen Jorgensen yn arwain y ffordd ac Anne Haug o'r Almaen yn ail o ran pwyntiau.

Daeth ei chyd-aelod o dîm Prydain, Jodie Stimpson, yn ail yn y gyfres ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Hyde Park.

Roedd yn rhaid i Haug setlo am y trydydd safle.

'Cyflym iawn'

Cyfres Triathlon y Byd - y manylion

• Saith ras rhwng Ebrill ac Awst ynghyd â rownd derfynol yn Llundain ym mis Medi

• Mae ras yn cynnwys nofio am 1,500m, 40km ar y beic a ras redeg o 10km i orffen

• Mae'r cystadleuwyr yn cael pwyntiau am bob ras gan ddibynnu ar eu safleoedd :- 800 i'r enillydd, 740 am ail, 685 am drydydd, 633 am bedwerydd a 586 am bumed

• Mae'r pwyntiau yn uwch yn y rownd derfynol :- 1,200 am ennill, 1,100 am ail a 1,027 am drydydd

• Mae cyfanswm bob cystadleuydd yn cynnwys y pedwar sgôr uchaf yn y gyfres a chyfanswm y rownd derfynol

Wedi'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn, dywedodd Stanford, a gipiodd y bencampwriaeth dan-23 flwyddyn yn ôl:

"Dydw i ddim wedi cysgu ers tair wythnos. Roedd pawb yn siarad am y peth. Ro'n i moyn perfformio'n dda, ac mae fy ffrindiau a fy nheulu yma felly rwyf wrth fy modd 'mod i wedi gallu gwneud e iddyn nhw.

"Fe ddechreuais i'n gyflym iawn yn y rhedeg, i geisio gwneud fyny am y bwlch yn syth a ro'n i'n clywed '25 eiliad' o'r ochrau felly feddyliais i 'Mae'n rhaid i mi fynd amdani nawr'."

Er i Stanford ddisgrifio'r tymor fel un "delfrydol", dyw hi ddim wedi bod yn hawdd iddi.

Cafodd ddamwain yn Hamburg ym mis Gorffennaf, gan dorri ei braich.

Ond roedd yn ôl yn cystadlu yn Stockholm bum wythnos yn ddiweddarach, gan orffen yn ail.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.