Dyfodol disglair

Harrison Parsons Mae'n bosibl y bydd gan Gymru dîm criced cenedlaethol erbyn i Harrison fod yn ddigon hen i chwarae

Mae bachgen chwech oed wedi cael dechrau rhagorol i'w yrfa fel cricedwr - drwy sgorio mwy o rediadau na'i dad mewn gêm gynghrair lawn.

Yn ôl ei rieni, mae Harrison Parsons o Abercarn, ger Casnewydd wedi bod wrth ei fodd a chriced ers ei fod yn faban.

Mewn gem ddiweddar fe lwyddodd i sgorio 24 o rediadau - 9 yn fwy na'r 15 gafodd ei dad.

Dywedodd Jeremy Parsons: "Roedden nhw'n meddwl mai ond ychydig o hwyl oedd e pan ddaeth Harrison allan i fatio gyda mi.

"Ond fe brofodd nhw'n anghywir yn eitha' buan wrth iddo lwyddo i gael mwy o rediadau na fi.

Harrisoniaid Mae Harrison yn dod o deulu o gricedwyr

"Dydw i heb lwyddo i fyw'r peth lawr ers hynny. Mae llawer o dynnu coes wedi bod, ond rwy'n falch iawn ohono fe."

"Mae'n dalentog iawn - mi faswn i'n hoffi dweud ei fod yn cymryd ar ôl ei dad ond mae o lawer gwell nag oeddwn i pan oeddwn yn chwech."

Yn ôl ei dad mae Harrison wedi bod yn ymarfer yn yr ardd ers peth amser ond unwaith cafodd gem gyda'r oedolion doedd dim troi nôl.

"Mae'n hawdd yn ddigon da i chwarae gyda'r oedolion. Mae'n gallu dal ei dir yn erbyn unrhywun.

"Mae pobl yn dueddol o'i gymryd yn ysgafn pan mae'n cerdded at y wiced mewn padiau sydd rhy fawr iddo ef."

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.