Comisiynydd Heddlu Gwent 'heb gael gwrandawiad teg'

Ian Johnston Ian Johnston: "Buddiannau cymunedau Gwent ... yn amlwg yn fy mhenderfyniadau".

Straeon Perthnasol

Mae Comisiynydd Heddlu Gwent wedi dweud na chafodd wrandawiad teg gerbron pwyllgor Seneddol.

Yn ôl Ian Johnston, fe wnaeth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref wneud iddo edrych fel "dihiryn".

Roedd y gwrandawiad yng Ngorffennaf yn rhan o ymchwiliad i pam y cyhoeddodd Y Prif Gwnstabl Carmel Napier ei ymddeoliad yn ddirybudd.

Honnodd y comisiynydd fod ASau wedi penderfynu'r hyn y bydden nhw'n ei ysgrifennu cyn iddo ymddangos gerbron.

"Dwi ddim yn credu eu bod wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth ... roedd trywydd yr holi'n awgrymu eu bod nhw wedi penderfynu o flaen llaw."

Roedd y pwyllgor wedi dweud bod agwedd y comisynydd at yr ymchwiliad yn "ddirmygus".

Roedd Ms Napier wedi honni bod Mr Johnston wedi darllen dogfen iddi oedd yn golygu bod raid iddi "adael y swydd neu gael fy ngorfodi i adael".

Ymddiswyddodd ym mis Mehefin.

'Pryderus'

Ar ddiwedd y gwrandawiad dywedodd Keith Vaz, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'n bryderus fod y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, fe ymddengys, yn gallu ochrgamu'r broses statudol ar gyfer diswyddo prif gwnstabl.

"Dylai Paneli Heddlu a Throsedd wneud defnydd mwy gweithgar o'u pwerau i graffu ar benderfyniadau fel hyn.

"Byddwn yn dychwelyd at y pwnc pan fyddwn yn cynnal ein hymchwiliad sylweddol nesaf i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd tua diwedd y flwyddyn."

Ar y pryd dywedodd Mr Johnston: "Hoffwn ailadrodd fod buddiannau cymunedau Gwent wedi bod, ac fe fyddan nhw wastad, yn amlwg yn fy mhenderfyniadau a fy mod yn gweithredu bob amser o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol.

"Rydw i hefyd am roi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd y byddaf yn symud i benodi Prif Gwnstabl newydd ddechrau Medi ac yn y cyfamser, byddaf yn gweithio gyda'r Prif Gwnstabl dros dro Jeff Farrar i sicrhau bod gan y llu'r sefydlogrwydd a'r arweiniad sydd ei angen, i barhau i ddarparu gwasanaeth heddlu ar gyfer Gwent sy'n ateb anghenion cymunedau Gwent."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Bryn TerfelCyngerdd i ddathlu pen-blwydd

    Bryn Terfel yn cyhoeddi manylion am gyngerdd i ddathlu ei ben-blwydd yn 50.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.