Dechrau difa moch daear yn Sir Gaerloyw a Gwlad yr Haf

Mochyn daear Mae disgwyl i 5,000 o foch daear gael eu difa

Straeon Perthnasol

Mae'r awdurdodau yn Lloegr wedi dechrau difa moch daear oherwydd dau gynllun peilot.

Y disgwyl yw y bydd 5,000 yn cael eu lladd o fewn chwe wythnos yn Siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf.

Dywedodd gwrthwynebwyr fel yr RSPCA fod y cynllun difa'n greulon ac aneffeithiol.

Ond mae cefnogwyr wedi dweud bod y difa'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â diciâu mewn gwartheg.

Fis Mawrth 2012 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi'r gorau i gynllun difa.

Roedd y polisi gwreiddiol wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Lafur-Plaid Cymru.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.