AC yn holi cyngor am gost achos llys

Gwestair yn Llandudno Mae yna waharddiad ar ffenestri UPVC mewn rhai ardaloedd yn Llandudno

Related Stories

Mae AC Aberconwy wedi cyhuddo cyngor sir o fod yn llawdrwm wrth ddelio gyda pherchennog fflatiau yn y dref.

Fe ymddangosodd Cindy Atay gerbron ynadon Llandudno ar gyhuddiad o fethu â chyd-fynd â gorchymyn i roi ffenestri newydd mewn tri o fflatiau o fewn cyfnod o chwe mis.

Plediodd y ddynes yn euog i'r cyhuddiad ond penderfynodd yr ynadon ei rhyddhau yn ddiamod.

Mae'r aelod cynulliad lleol Janet Finch-Saunders am wybod faint wnaeth Cyngor Conwy wario wrth baratoi'r achos yn ei herbyn.

Fe wnaeth Mrs Atay, 55 oed, ymddangos gerbron y llys yr wythnos diwethaf a chyfaddef iddi fethu â chyd-fynd ag amserlen y cyngor i newid y ffenestri.

Arian

Dywedodd ei chyfreithiwr Richard Williams fod Mrs Atay wedi rhoi ffenestri dwbl UPVC yn ei fflatiau un 2006 yn dilyn sgwrs gydag un o swyddogion y cyngor.

Ond yna dywedodd fod y cyngor yn anhapus a bod swyddog cynllunio am iddi osod ffenestri mwy traddodiadol oedd yn cyd-fynd â naws yr ardal.

Dywedodd Mrs Atay y byddai'r gost ychwanegol yn £70,000 ac nad oedd ganddi'r arian.

"Doedd hyn ddim yn fater o beidio ag ufuddhau ond yn hytrach nad oedd yr arian ar gael," meddai Mr Williams.

Fe blediodd Mrs Atay yn euog i'r cyhuddiad.

Cafodd ei rhyddhau yn ddiamod.

Fe wnaeth yr ynadon wrthod cais y cyngor am gostau o £235.

Ar ôl yr achos dywedodd Mrs Atay, o Fae Penrhyn, fod yr achos wedi costio £100,000 oherwydd biliau cyfreithiol.

Dywedodd Ms Finch-Saunders ei bod hi'n croesawu penderfyniad yr ynadon i ryddhau Mrs Atay yn ddiamod.

"Fe fyddaf yn holi Cyngor Conwy am y gost i'r trethdalwyr o fynd â'r achos yma i'r llys."

Dywedodd Cyngor Conwy mewn datganiad: "Fe wnaeth y perchennog bledio'n euog i drosedd ac o fethu â chyd-fynd â gorchymyn swyddogol yn ymwneud ag adeilad rhestredig gradd II.

"Dyw penderfyniad y llys ddim yn effeithio polisi'r cyngor. "

More on This Story

Related Stories

The BBC is not responsible for the content of external Internet sites

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.