Abertawe 1-4 Manchester United

Robin van Persie Robin van Persie sgoriodd y gyntaf yn erbyn Abertawe

Abertawe 1-4 Manchester United

Mae Abertawe wedi profi'r ddau begwn o emosiwn ar ddiwrnod cynta'r tymor yn yr Uwchgynghrair.

Yn 2011 fe gollon nhw o 4-0 i Manchester City, ond yna flwyddyn yn ôl roedden nhw'n fuddugol o 5-0 oddi cartref yn erbyn QPR.

Dydd Sadwrn oedd y tro cyntaf iddyn nhw ddechrau tymor ar y Liberty ers cyrraedd y lefel uchaf, ond gyda'r pencampwyr yn ymweld doedd hi ddim am fod yn brynhawn hawdd.

Er i Abertawe ddechrau gyda'u patrwm arferol o bêl-droed taclus, mae Michael Laudrup wedi ychwanegu dipyn o haearn i'r tîm yn amddiffynnol, ac fe welwyd hynny wrth i Jose Canas weld cerdyn melyn am dacl flêr ar Tom Cleverley.

Roedd y bêl yn y rhwyd wedi 19 munud. Methodd De Gea â dal ei afael ar ergyd Wayne Routledge, ac roedd Michu wrth law i osod y bêl yn y rhwyd, ond roedd yn camsefyll ac ni chafodd y gôl ei chaniatáu.

Tynnu'r pwysau

Roedd pwysau ar reolwr newydd Manchester United yn ei gêm gyntaf wrth y llyw ar y lefel yma, ond fe dynnwyd ychydig o'r pwysau yna oddi ar ei 'sgwyddau pan sgoriodd Robin van Persie wedi 34 munud.

A chyn i Abertawe sylweddoli beth oedd yn digwydd bron, roedd y pencampwyr wedi ymestyn eu mantais wrth i Danny Welbeck lwyddo i gael y bêl dros y llinell ddau funud yn ddiweddarach.

Roedd yr egwyl yn gyfle am newid, ac fe ddaeth Laudrup â Wilfried Bony - chwaraewr drytaf yr Elyrch erioed - i'r cae ar gyfer yr ail hanner ynghyd â Pablo Hernandez.

Ond er i'r Elyrch gael cyfnodau o fygwth gôl yr ymwelwyr, doedd dim yn tycio er i Angel Rangel ddod yn agos gyda foli ardderchog wedi 70 munud.

Yn wir fe aeth pethau'n waeth eiliadau'n ddiweddarach yn dilyn gôl ardderchog arall gan van Persie, wrth iddo guro tri chwaraewr cyn tanio ergyd i do'r rhwyd.

Fe ddaeth llygedyn o obaith i Abertawe - a phrawf o lygad craff y rheolwr - pan sgoriodd Bony gôl daclus gydag wyth munud yn weddill. Roedd y gôl hefyd yn sbardun a welodd y tîm cartref yn pwyso am un arall.

Ond gôl gysur yn unig oedd hi. Fe ddaeth gôl arall, ond i'r pencampwyr y daeth hi gyda Danny Welbeck yn sgorio'i ail yn y gêm i bwysleisio'r fuddugoliaeth.

Fe fydd Abertawe'n siomedig i golli eu gêm gyntaf ar y Liberty, ond hefyd yn sylweddoli eu bod wedi dangos ambell fflach o'r hyn y gall y ffyddloniaid ei ddisgwyl am weddill y tymor.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.