Cymraeg: Galw am fwy o iaith 'bob dydd' yn y cyfryngau

Y Pafiliwn a'r Orsedd Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener

Byddai defnyddio mwy o "Gymraeg bob dydd" ar deledu, radio ac ar-lein yn rhoi hyder i fwy o bobl siarad yr iaith, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, S4C a'r BBC, diffyg hyder yw un o'r prif resymau pam nad yw siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r iaith.

Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc yn llai tebygol o siarad Cymraeg na phobl hyn.

Cafodd yr adroddiad ar arferion iaith siaradwyr Cymraeg ei gyhoeddi ddydd Iau.

O'r 483 o bobl a gymrodd ran yn yr arolwg, dywedodd 84% y bydden nhw yn croesawu cael mwy o gyfle i siarad Cymraeg. Dywedodd 61% byddai'n dda ganddynt pe gallent siarad Cymraeg yn well.

Dim ond 36% o'r bobl 16-24 oed a holwyd oedd yn dweud eu bod nhw 'bob amser' neu 'fel arfer' yn siarad Cymraeg, o'i gymharu â 61% ymhlith pobl dros 60 oed.

Roedd gadael ysgol yn cael ei nodi fel un adeg pan yr oedd defnydd o'r iaith Gymraeg yn debygol o leihau ymhlith rhai.

Pobl ifanc oedd y rhai mwyaf tebygol o fod wedi dechrau dysgu Cymraeg yn y feithrinfa neu'r ysgol gynradd, yn hytrach na'r cartref.

Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen i godi hyder pobl wrth ddefnyddio'r Gymraeg, er ei fod yn nodi nad yw diffyg hyder yn broblem newydd.

Dylai pobl gael sicrwydd bod eu hiaith naturiol, gan gynnwys rhai geiriau Saesneg, yr un mor dderbyniol â Chymraeg sy'n ramadegol gywir yn ôl yr adroddiad:

"Man cychwyn fyddai i siaradwyr Cymraeg weld a chlywed Cymraeg bob dydd yn amlach ar y teledu, ar y radio a thrwy gynnwys digidol sy'n adlewyrchu'n well yr iaith a ddefnyddir yn eu bywyd bob dydd."

Dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2011 bod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi lleihau 20,000 dros ddegawd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i lywio ein polisïau ar gyfer yr iaith wrth i ni ymateb i heriau ffigyrau cyfrifiad 2011 a'r wybodaeth a safbwyntiau a rannwyd yn ystod y Gynhadledd Fawr."

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Wales Rhodri Talfan Davies: "Mae'r adroddiad yn nodi pryderon ynglŷn â gwasanaethau ar-lein Cymraeg, sy'n fater y mae BBC Cymru Wales eisoes yn mynd i'r afael â hi gyda buddsoddiad newydd a sylweddol i ddatblygu gwasanaeth ar-lein Cymraeg newydd - 'Cymru Fyw'."

Dywedodd prif weithredwr S4C Ian Jones: "Y rheswm y codais y posibilrwydd o wneud y math yma o ymchwil yn wreiddiol oedd i ni gael deall sut mae pobl Cymru'n teimlo ynglŷn â defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol."

Mwy Am y Stori Hon

SIR DDINBYCH 2013

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Bryn TerfelCyngerdd i ddathlu pen-blwydd

    Bryn Terfel yn cyhoeddi manylion am gyngerdd i ddathlu ei ben-blwydd yn 50.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.