Angen creu 'marchnad lafur Cymraeg'

Meirion Davies ar faes y steddfod Fe wnaeth Meirion Davies (chwith) ei sylwadau yn ystod trafodaeth ar Faes yr Eisteddfod

Mae angen gweld parhad yr iaith fel bod pobl sydd yn cael eu haddysg yn Gymraeg yn medru cael cyfleoedd i'w defnyddio yn eu gwaith.

Dyna ddywed Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, Meirion Davies. Mae'r mentrau iaith wedi cyflwyno'r syniad o greu 'marchnad lafur cyfrwng Cymraeg' i Lywodraeth Cymru:

"Da ni wedi dechrau siarad efo'r llywodraeth ac ella dechrau targedu arian newydd Ewrop sydd yn dod trwodd i greu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg.

"Lle da ni yn adnabod y galw am swyddi fydden ni angen fel athrawon newydd, ym maes iechyd er enghraifft, bod ni yn creu a mapio fo allan a chreu lot gwell cyswllt rhwng beth sydd yna o ran addysg a gyrfa pobl," meddai.

Traean

Dywed ef fod y Cyfrifiad diweddar wedi dangos bod traean o bobl ifanc 15 oed oedd yn medru siarad Cymraeg yn 1991 erbyn hyn wedi symud i Loegr ac na allwn ni fforddio gadael i hyn ddigwydd yn y dyfodol:

"Os ydan ni o ddifri am gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mae rhaid i ni recriwtio a chynllunio. Mae o yn digwydd i raddau. Mae o yn digwydd yng Ngwynedd a trwy'r cynllun sabothol. Wedyn 'dach chi yn dechrau creu'r continiwm rhwng addysg a gwaith sydd yn holl bwysig.

"Os ydych chi yn edrych ar y cyfrifiad diwetha' lle mae'r Gymraeg wedi cynyddu, 'dach chi yn gweld bod 'na gyswllt clir rhwng addysg a gwaith yna fel yng Ngwynedd.

"Os ydach chi yn edrych o gwmpas ardal Caernarfon, gogledd Gwynedd, mae 'na lot o wardiau fanna lle mae 'na gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Os 'dach chi yn cyplysu'r system addysg a'r ffaith bod Cyngor Sir Gwynedd yn cyflogi ryw 6,000 neu 7,000 o bobl ac mae bob un ohonyn nhw yn gorfod siarad Cymraeg."

Gap

Y syniad ydy y byddai'r mentrau yn medru gweld lle mae'r llefydd gwag yn y gweithlu yn eu hardaloedd lleol, fel mae Menter Iaith Conwy yn wneud yn barod yn y maes awyr agored:

"'Da ni wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y maes yn y gweithlu. Mae hynna ond yn un esiampl o beth sydd yn berthnasol i Gonwy."

Dywed ef fod y Gymraeg wedi bodoli o fewn y gymuned lenyddol ac yn ieithyddol ond bod ei gwerth hi ddim wedi ei hystyri digon o fewn y sector gwaith:

"Beth mae hynny yn golygu ydy bod ni yn colli pobl bob cenhedlaeth ac mae pobl sydd yn symud i mewn ddim yn gweld gwerth yn ei dysgu hi. Felly mae angen gwneud y continiwm yna tu hwnt i'r byd addysg."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.