Betsi: Penderfynu ar ffordd ymlaen

Doctor Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun i fynd i'r afael efo'r problemau sydd yn bodoli

Straeon Perthnasol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau adroddiad beirniadol gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.

Fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny o ganlyniad yn rhoi iechyd cleifion mewn perygl.

Yn dilyn hyn fe benderfynodd prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd y bydden nhw'n ymddiswyddo unwaith byddai eraill wedi eu darganfod i gymryd eu swyddi.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "derbyn casgliadau'r adroddiad yn llawn ac yn ddiamod yn ogystal â'r argymhellion mae'n gynnwys".

Ffordd ymlaen

Mae'r bwrdd iechyd wedi pennu dogfen sy'n cynnwys cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r problemau.

Mae'n cynnwys sefydlu 'tîm llywodraethu a darparu arweinyddiaeth' fydd yn cael ei gadeirio gan gadeirydd bwrdd iechyd arall.

Bydd yn ystyried sut y gellir cyflwyno gwelliannau i'r ffordd mae'r bwrdd yn cael ei redeg, yn delio gyda diogelwch cleifion ac yn cyfathrebu gydag aelodau staff.

Mae'r ddogfen yn dweud: "Rydym yn derbyn bod angen gwella llywodraethiant, arweinyddiaeth a threfniadau rheoli'r bwrdd er mwyn ein galluogi i wasanaethu cymunedau gogledd Cymru'n well.

"Mae'r bwrdd yn ceisio adennill hyder staff a rhanddeiliaid wedi iddyn nhw gael eu difrodi o ganlyniad i gynnwys yr adroddiad."

Cafodd y cyfarfod i drafod y ddogfen ei gadeirio gan yr Athro Merfyn Jones sydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll lawr o'r rôl unwaith mae'r bwrdd wedi apwyntio cadeirydd newydd.

Bydd prif weithredwr y bwrdd Mary Burrows hefyd yn rhoi'r gorau i'w swydd, yn ogystal ag is-gadeirydd y bwrdd Dr Lyndon Miles.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.