Llwyddiant i Brestatyn yn Ewrop, ond siom i Bala ac Airbus

Cyngrhair Ewropa Prestatyn yn cyrraedd rownd nesaf y Gyngrhair Ewropa

Straeon Perthnasol

Mae clwb pêl droed Prestatyn wedi cyrraedd rownd nesaf y Gynghrair Ewropa, wedi buddugoliaeth yn erbyn Liepajas Metalurgs o Latvia.

Aeth Metalurgs ar y blaen yn gynnar wrth i Valerjis Afanasjevs rwydo wedi 17 munud.

Ond cafodd Prestatyn gyfle i ddod yn ôl i mewn i'r gêm, pan gafodd Dzintars Zirnis ei yrru o'r cae am gael dau gerdyn melyn.

Ross Stephens sgoriodd i ddod a Prestatyn yn gyfartal ar y noson, cyn i Neil Gibson sgorio yn y munud olaf, i sicrhau amser ychwanegol.

Doedd Prestatyn methu manteisio ar y dyn ychwanegol yn yr hanner awr ychwanegol, ond llwyddon nhw i ennill y gêm ar giciau o'r smotyn.

Bydd Prestatyn nawr yn wynebu HNK Rijeka yn y rownd nesaf, y gêm gyntaf yn digwydd ar 18 Gorffennaf yng Nghroatia.

Siom i Bala ac Airbus

Roedd dau dîm arall o Gymru yn ceisio cyrraedd y rownd nesaf, ond siomedig oedd gemau Airbus a Bala.

Doedd gôl o fantais o'r cymal cyntaf ddim yn ddigon i Bala wrth iddyn nhw golli o 3-1 yn erbyn Levadia Tallinn yn Stadiwm Kadriorg.

Sgoriodd Rimo Hunt dair gôl i'r tîm cartref, i'w rhoi ar y blaen am fwyafrif y gêm.

Rhwydodd Ryan Jones yn y munudau olaf i sicrhau diweddglo cyffrous, ond doedd Bala methu a dod o hyd i'r gôl hollbwysig.

Mae Airbus hefyd wedi methu a symud ymlaen yn y gystadleuaeth, wedi gem ddi-sgôr yn erbyn Ventspils o Latvia.

Roedd Airbus yn rheoli'r gêm am gyfnodau hir, ond methu a manteisio ar hynny gyda gôl.

Felly gôl Ventspils oddi cartref yn y cymal cyntaf oedd y gwahaniaeth rhwng y timau.

Canlyniadau

SK Liepajas Metalurgs 1-2 Prestatyn

(Cyf. 3-3) Prestatyn yn ennill 4-3 ar giciau o'r smotyn

PFK Ventspils 0-0 Airbus UK

(Cyf. 0-0) Ventspils yn ennill oherwydd gôl oddi cartref

Levadia Tallinn 3-1 Bala

(Cyf. 3-2)

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.