Meini o Gymru yn cyrraedd Fflandrys i greu cofeb

Straeon Perthnasol

Gwireddu Breuddwyd. Dyna sut y disgrifiodd Marc Decaestecker y profiad o weld y meini o Gymru yn cyrraedd.

Dyma'r cerrig fydd yn creu cromlech - a fydd yn gofeb barhaol i'r Cymry gafodd eu lladd yn Fflandrys.

Y meini'n cyrraedd pen eu taith Y meini'n cyrraedd pen eu taith

Mae Marc yn rhedeg caffi gyferbyn â'r safle ble y cludwyd y Prifardd Hedd Wyn ar ôl cael ei glwyfo yn angheuol ym mrwydr Cefn Pilkem ar ddiwrnod olaf Gorffennaf, 1917.

Mae profiadau Elis Humphrey Evans yn Fflandrys i nifer yn ymgorfforiad o drasiedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yng nghaffi Marc mae yna luniau a barddoniaeth y bugail o Drawsfynydd ar y waliau, ynghyd â draig goch enfawr uwchben y caffi.

Ond mae ymweliad â mynwent Artillery Wood gerllaw yn ein hatgoffa bod yna filoedd o Gymry wedi marw ym mrwydr Cefn Pilkem.

Cafodd 4000 o filwyr Prydain eu lladd ar yr un diwrnod â Hedd Wyn.

Mae pwyllgor bach ond penderfynol yn Fflandrys ac yng Nghymru wedi gweithio yn ddygn i sicrhau y bydd yna ganolbwynt i Gymry sydd yn ymweld â thref Hagebos.

Pobl ar y safle ble bydd y gromlech yn cael ei chodi Ymgasglodd pobl i weld y meini yn cyrraedd

Ar ôl taith hir o 300 milltir, fe gyrhaeddodd y cerrig tua amser cinio. Roedd yna griw bychan wedi ymgynnull yna i'w croesawu.

Fe fendithiwyd y meini gan offeiriad Anglicanaidd Ieper, ac yna fe chwaraewyd yr Anthem Genedlaethol gan ferch leol.

Roedd yr emosiwn yn glir ar wyneb Marc. Roedd hon yn foment i'w thrysori a'i chofio.

Mae cofio yn beth pwysig iawn yn y gornel hon o Fflandrys. Bob nos yn nhref Ieper gerllaw, mae yna wasanaeth i goffau'r meirw ym Mhorth Menin.

Maes o law fe ddaw'r meini o Gymru yn ganolbwynt i'r cofio am y rhai gafodd eu lladd yn ystod rhai o frwydrau mwyaf erchyll y Rhyfel Mawr.

Wrth sefyll ar bwys y safle ble fydd y gromlech yn cael ei chodi, mae hi'n anodd iawn dychmygu'r amodau yn ystod haf 1917.

Fe wnaeth hi fwrw glaw bron yn ddi-baid yn ystod Awst 1917, gan droi'r caeau yn gorsydd.

meini ar gefn lori Y meini yn cael eu llwytho yng Nghymru cyn cael eu cludo i Fflandrys

Am y tro cyntaf, fe fydd pobl sydd wedi cefnogi'r cynllun i greu cofeb yn Fflandrys yn medru gweld ffrwyth eu llafur.

Mae'r pwyllgor lleol yng Ngwlad Belg yn dweud y bydd y gromlech wedi ei gosod erbyn diwedd mis Medi.

Darlun artist o sut y gallai'r gofeb edrych yn y pen draw Sut y gallai'r gofeb edrych yn y pen draw

Cam nesaf y cynllun fydd ceisio sicrhau digon o arian i dalu am ddraig efydd fydd yn goron ar y gromlech.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i drafod a fydda nhw'n cyfrannu at yr achos, ond mae'r pwyllgor yng Nghymru yn obeithiol.

Yn y fynwent yn Artillery Wood, mae yna resi o feddi unigol - pob un yn nodi i ba gatrawd yr oedd y milwr yn perthyn ac ar ba ddyddiad y cafodd ei ladd. Ond does yna ddim awgrym o ba genedl y daethon nhw, ar wahân i'r bathodyn milwrol.

Dyna sydd wedi ysbrydoli'r criw o wirfoddolwyr yn Fflandrys a Chymru-creu lle priodol i gofio am y 40,000 o Gymry a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.