Enwebiadau isetholiad Môn yn cau

Straeon Perthnasol

Mae enwebiadau ar gyfer Isetholiad Cynulliad ar Ynys Môn wedi cau.

Daeth y cyfnod enwebu i ben am hanner dydd, gyda'r enwau fydd yn ymddangos ar y papurau pleidleisio yn cael eu cyhoeddi yn fuan wedyn.

Mae pum enwebiad wedi eu cadarnhau erbyn hyn:-

  • Neil Fairlamb (Ceidwadwyr);
  • Steve Churchman (Democratiaid Rhyddfrydol);
  • Tal Michael (Llafur);
  • Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru);
  • Nathan Gill (UKIP).

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar Awst 1 yn dilyn cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones ei fod yn ildio ei sedd.

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru wedi gadael ei swydd i ddechrau swydd newydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai, wedi iddo fod yn Aelod Cynulliad dros yr etholaeth ers 1999.

Cliciwch yma i weld rhestr yr ymgeiswyr.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.