Mesur Rhoi Organau'n cael ei gymeradwyo

Llawdriniaeth Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cynnydd yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi

Straeon Perthnasol

Mae'r cynulliad wedi cytuno i newid y system roi organau yng Nghymru.

Bydd y newidiadau'n cael eu gweithredu yn 2015 - o hynny ymlaen bydd llywodraeth yn tybio bod caniatâd ar gyfer rhoi organau yn cael ei roi os nad yw unigolyn yn nodi ei wrthwynebiad i hynny.

Cymru yw'r wlad gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu polisi o'r fath.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y Mesur Rhoi Organau yn achub bywydau drwy gynyddu'r nifer o organau sydd ar gael i'w defnyddio 25%.

Dadl rhai sy'n gwrthwynebu yw mai'r teulu ac nid y llywodraeth ddylai benderfynu os dylid cymryd organau gan rywun sydd wedi marw.

Fe wnaeth 43 aelod bleidleisio o blaid y mesur a wyth yn ei erbyn, gyda dau arall yn atal eu pleidlais.

'Anrheg o fywyd'

Yn siarad ar ddiwedd sesiwn a barodd bron i bump awr dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'r ddadl hon yn dod a therfyn i daith wnaeth ddechrau nid efo'r mesur yma ond gyda hanes hir a balch Cymru o arloesedd mewn cysylltiad â rhoi organau.

"Mae Cymru'n wlad flaengar ac mae hwn yn bolisi blaengar a dyna pam mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru

"Mewn ffordd bersonol rwy'n credu bod y mesur yma wedi dangos cryfder aruthrol y cynulliad hwn.

"Ry'n ni gyd yn cofio damcaniaethon gwrthwynebwyr datganoli yn 1997 y byddai'r byd yn disgyn yn ddarnau - hwn yw'r enghraifft ddiweddaraf o ba mor anghywir oedden nhw.

"Hanfod y mesur hwn yw rhoi'r anrheg o fywyd i ddieithriaid. Mae'n fesur sy'n cynnig gobaith i bobl sydd heb neb."

'Datblygiad naturiol'

Dadleuodd y Ceidwadwr Darren Millar mai'r teulu ac nid y llywodraeth ddylai benderfynu os dylid cymryd organau gan rywun sydd wedi marw.

"Er fy mod i am bleidleisio yn erbyn y mesur rwyf eisiau datgan fy nghefnogaeth o roi organau a dweud fy mod i'n gobeithio bydd llawer yn optio fewn i'r system newydd yn y dyfodol," meddai Mr Millar.

Fe wnaeth Mr Millar ddiolch i Mr Drakeford am y ffordd roedd wedi mynd ati i wrando ar ei safbwynt ddatblygu'r ddeddfwriaeth: "Rwy'n diolchgar iawn i'r gweinidog am ei bolisi drws-agored."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones bod y mesur yn "ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sydd yn sicr o achub bywydau yng Nghymru".

"Fe fydda' i yn cefnogi'n frwdfrydig iawn y ddeddfwriaeth o'n blaen," meddai.

"Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddatblygiad naturiol i'n haelioni ni fel cenedl. Hoffaf gydnabod bod Dr Dai Lloyd yma prynhawn yma - fe wnaeth Carwyn Jones chwarae teg iddo gydnabod rôl allweddol Dai gan mai fo wnaeth gyflwyno'r syniad o ddeddfu yn y maes hwn.

"Dwi'n hyderus fydd y ddeddfwriaeth yma yn dangos ein bod ni fel Cymry yn arwain yn y maes yma.

"Mae Gogledd Iwerddon eisoes yn ein dilyn a dwi'n rhagweld o fewn 10 mlynedd fe fydd Lloegr a'r Alban yn ein dilyn hefyd."

'Yr anrheg fwyaf dyngarol'

Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Heno rydym wedi cyflawni'r hyn rydym wedi bod eisiau ei gyflawni o'r dechrau - bod yn senedd sy'n dod a deddfwriaeth arloesol ymlaen....

"Rwy'n gobeithio y bydd digwyddiadau heddiw yn ei gwneud hi'n bosibl i hyd yn oed fwy o bobl dderbyn yr anrheg fwyaf dyngarol - organ wedi ei roi fel rhodd."

Dywedodd Dr Richard Lewis ar ran y BMA: "Rwy'n credu mai dyma'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth a grëwyd yng Nghymru ers cyfreithiau Hywel Dda.

"Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru yn barod i arwain y DU ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ond nid oedd gennym y pwerau cyfreithiol angenrheidiol.

"Y tro hwn, rydym yn falch iawn bod ein Cynulliad Cenedlaethol wedi dangos i gweddill y DU y ffordd ymlaen ac yn cefnogi ei weithrediad yn llawn.

"Rydym yn llongyfarch ACau ar eu goleuedigaeth."

Newid y drefn

O dan y system bresennol mae angen i rywun arwyddo cofrestr er mwyn rhoi caniatâd i'w organau gael eu defnyddio.

Roedd Llywodraeth Cymru eisiau newid y drefn hon fel bod pawb yn cael eu hystyried yn fodlon i roi eu horganau os nad ydynt wedi nodi eu bod nhw ddim.

Cerdyn rhoi organau Bydd unigolion yn parhau i allu datgan eu parodrwydd i roi eu horganau drwy roi eu henw ar restr

Wedi i'r mesur dderbyn cydsyniad brenhinol bydd yn dod i rym yn 2015.

Bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i'w hyrwyddo cyn hynny fel bod pobl sy'n byw yng Nghymru'n ymwybodol beth sydd angen iddynt ei wneud os nad ydynt am weld eu horganau'n cael eu defnyddio.

Er mwyn cyflawni hyn bydd bron i £8 miliwn yn cael ei wario dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.