Llywodraeth Cymru'n rhoi £15m i bum prifysgol yn Lloegr

Prifysgol Lerpwl Mae 690 o fyfyrwyr Cymreig yn astudio ym Mhrifysgol Lerpwl ar hyn o bryd

Straeon Perthnasol

Mae tua £15 miliwn o gyllideb addysg Llywodraeth Cymru'n mynd dros y ffin i bum prifysgol Saesnig bob blwyddyn yn ôl ffigyrau sydd wedi eu darganfod gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae polisi'r llywodraeth o gyfrannu tuag at ffioedd myfyrwyr o Gymru sy'n dewis astudio yn Lloegr yn cael "effaith niweidiol" ar brifysgolion Cymru.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu'r polisi gan ddweud ei fod yn "anghynaladwy".

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y system gan ddweud ei fod yn gynaliadwy a bod mwy o arian yn dod fewn i Gymru na sy'n mynd allan mewn cysylltiad ag addysg.

Ffioedd
Colin Riordan Mae Colin Riordan yn credu bod angen i'r llywodraeth ailystyried eu polisi ffioedd

Polisi Llywodraeth Cymru yw talu unrhyw ffioedd dros £3,500 i fyfyrwyr Cymreig lle bynnag yn y Deyrnas Unedig maent yn penderfynu astudio.

Gan mai uchafswm ffioedd prifysgolion Lloegr yw £9,000 mae'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn talu tua £5,500 y flwyddyn ar gyfer llawer o fyfyrwyr Cymreig sy'n dewis astudio dros y ffin.

Mae'r wybodaeth yn dangos fod 2,778 o fyfyrwyr Cymreig yn astudio ym mhrifysgolion Bath, Bryste, Caerwysg, Lerpwl a Chaer - os yw bob un yn derbyn £5,500 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru mae'r cyfanswm yn £15.3 miliwn y flwyddyn.

Mae'n bosibl nad yw pob disgybl yn derbyn yr uchafswm o £5,500 felly gallai'r gwir ffigwr ar gyfer y pum prifysgol fod yn llai na £15 miliwn.

Ond gan fod y ffigwr hon ond yn ystyried pum prifysgol a bod dros 100 o brifysgolion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n derbyn myfyrwyr o Gymru, mae cyfanswm yr arian sy'n cael ei dalu bob blwyddyn yn mynd i fod yn llawer uwch.

Yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd yr Athro Colin Riordan: "Fedra i weld sut bod hynny'n bolisi da i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru.

"Ond sgil-effaith anffodus hynny yw bod Llywodraeth Cymru yn talu prifysgolion Lloegr, ac rwy'n siŵr nad dyna fwriad gwreiddiol yr arian a drosglwyddwyd i Gymru o drysorlys y DU."

'Gimig'
Angela Burns Mae Angela Burns wedi disgrifio'r polisi fel gimig etholiadaol

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig Angela Burns: "Roedd yn amlwg o'r dechrau bod cymhorthdal ffioedd dysgu o £3.6 biliwn Llafur wedi'i daflu at ei gilydd ar gefn amlen fel gimig cyn yr etholiad.

"Nawr, wedi iddo gael ei weithredu, rydym yn gweld yr effeithiau niweidiol mae'n ei gael ar ein prifysgolion pan mae adnoddau sydd eu hangen yma'n cael eu danfon dros y ffin ac yn gwneud codi safonau hyd yn oed yn anoddach.

"Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn union faint mae ein sector addysg uwch yn ei golli i brifysgolion yn Lloegr oherwydd gweinidogion Llafur sydd eisiau chwarae gwleidyddiaeth bleidiol.

"Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog Addysg newydd yn mynd a'r polisi hwn yn ôl i'r bwrdd darlunio ac yn ystyried sut y gallwn hyrwyddo mynediad i brifysgol a chodi safonau heb anfon £50 miliwn allan o Gymru."

Cyfrifoldeb

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y polisi gan ddweud fod ganddynt gyfrifoldeb i gefnogi myfyrwyr lle bynnag maent yn dewis astudio.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym wedi cadarnhau'n gyson bod y polisi yn cael ei gostio'n llawn ac yn gynaliadwy ar gyfer oes y Llywodraeth hon.

"Mae'n bryd i bobl gydnabod tra bod y polisi yn golygu bod swm sylweddol o grant ffi yn cael ei dalu i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn sefydliadau yn Lloegr, mae hefyd yn bwysig ystyried bod mwy o fyfyriwr o rannau eraill o'r DU yn astudio yng Nghymru na'r ffordd arall rownd.

"Mae sefydliadau yng Nghymru yn derbyn llawer mwy o incwm ffioedd gan y myfyrwyr hynny nag ydym yn talu mewn grant ffioedd i sefydliadau Lloegr.

"Mae'n amser i roi'r gorau i gwestiynu cynaliadwyedd neu effaith y polisi a chanolbwyntio ein hegni ar gael y negeseuon cywir i fyfyrwyr er mwyn eu hannog i astudio yn ein sefydliadau."

Seminar

Er bod Plaid Cymru'n rhan o'r llywodraeth pan gafodd y polisi ei gyflwyno yn y lle cyntaf, maen nhw bellach yn credu ei fod yn anghynaladwy gan fod ffioedd wedi codi ers hynny.

Maen nhw'n amcangyfrif ei fod yn costio £74 miliwn y flwyddyn i lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas: "Mae angen polisi ariannu sy'n addas i'r diben hwn a dyna pam nes i gynnal seminar ar gyfer arbenigwyr addysg yr wythnos diwethaf, i ddatblygu polisi amgen ar gyfer ariannu addysg uwch yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ar ôl 2016.

"Mae Plaid Cymru yn adeiladu ac ymgynghori ar ffordd arall ymlaen. Rydym yn galw ar bleidiau eraill a Llywodraeth Cymru i weithio gyda ni ar hyn.

"Rhaid cael dull arall fydd o fudd i sefydliadau addysg Uwch, myfyrwyr ac economi Cymru."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.