Cynnal Prifwyl yn 2016

Golygfa o'r maes Yn ôl y trefnwyr, roedd Eisteddfod yr Urdd ym Moncath yn llwyddiant mawr eleni

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn Y Fflint yn 2016.

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Y Fflint nos Fawrth, gan bleidleisio dros gynnig i estyn gwahoddiad ffurfiol i'r Eisteddfod.

Bydd prifwyl ieuenctid Cymru'n cael ei chynnal ar gaeau ger Ysgol Uwchradd Y Fflint.

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd fod yn yr ardal oedd yn Yr Wyddgrug yn 1984, a dyw hi erioed wedi bod yn nhre'r Fflint o'r blaen.

Yn y cyfarfod hefyd roedd gwahoddiadau i bobl fod ar bwyllgorau trefnu yn lleol.

Mae disgwyl iddyn nhw gynnal eu cyfarfodydd cyntaf yn yr hydref.

Er nad oes nod ariannol i'r pwyllgorau hyd yma, mae oddeutu £200,000-£300,000 o gostau cynnal yr Eisteddfod yn flynyddol yn cael eu codi gan gefnogwyr yr eisteddfod yn lleol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.