Cyllideb: Dwy blaid ar y cyd

Straeon Perthnasol

Bydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithredu wrth drafod cyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Cyhoeddodd y ddau arweinydd Leanne Wood a Kirsty Williams hyn mewn cynhadledd newyddion.

Byddai rhaid i weinidogion drafod ag un tîm ar ran y ddwy blaid, medden nhw.

Gan fod ganddyn nhw 30 o seddau allan o 60, mae angen cefnogaeth plaid arall ar Y Blaid Lafur cyn pasio cyllideb.

Ymatal

Y llynedd ymataliodd Plaid Cymru rhag pleidleisio ar gyllideb 2013-14 er mwyn cael mwy o arian ar gyfer prentisiaethau a sefydlu Parc Gwyddoniaeth Menai.

Bore Mawrth dywedodd Ms Wood: "Mae Plaid Cymru yn benderfynol o daro'r fargen orau ar gyfer pobol Cymru.

"Wrth gydweithio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol byddwn ni mewn safle cryf i orfodi'r llywodraeth i gymryd camau fyddai'n hybu'r economi, mynd i'r afael â gwenidau yn y Gwasanaeth Iechyd a gwella safonau mewn ysgolion."

Dywedodd Ms Williams mai ei blaenoriaethau fyddai'r economi, iechyd ac addysg.

"Dwi'n falch y byddwn yn cydweithio gyda Phlaid Cymru er mwyn sicrhau cyllideb ar gyfer Cymru i gyd."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.