Y Llewod yn chwalu'r Rebels

Sgoriodd y Llewod bum cais Sgoriodd y Llewod bum cais

Mae'r Llewod yn dathlu wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Melbourne Rebels.

35-0 oedd y sgôr terfynol gyda phum cais.

Er i'r tîm cartref amddiffyn yn dda, y Llewod oedd y tîm gorau pan oedden nhw'n medru cadw'r bêl.

15 tacl

Ond cafwyd nifer o gamgymeriadau mewn gêm lac oedd weithiau yn anniben.

Fe fethodd y Llewod 15 tacl ac er bod patrymau pert yn cael eu creu fe gollwyd cyfleoedd.

TAITH Y LLEWOD I AWSTRALIA 2013

  • Sad, Mehefin 1 -Llewod 59-8 Barbariaid, Hong Kong
  • Mer. Mehefin 5 - Llewod 69-17 Western Force, Perth
  • Sad. Mehefin 8 - Llewod 22-12 Queensland Reds, Brisbane
  • Maw. Mehefin 11 - Llewod 64-0 Tîm cyfunol New South Wales-Queensland Country, Newcastle
  • Sad, Mehefin 15 - Llewod 47-17 New South Wales Waratahs, Sydney
  • Maw, Mehefin 18 - Llewod 12-14 ACT Brumbies, Canberra
  • Sad. Mehefin 22 - Llewod 23-21 Awstralia: Prawf Cyntaf, Brisbane
  • Maw, Mehefin 25 -Llewod 35-0 Melbourne Rebels, Melbourne
  • Sad. Mehefin 29 - Ail Brawf, Melbourne
  • Sad. Gorffennaf 6 - Trydydd Prawf, Sydney

Daeth y cais cyntaf gan y Gwyddel Conor Murray a hynny bymtheg munud ar ôl i'r gêm ddechrau. Wedi i'r Cymro Toby Faletau fynd yn agos at groesi ei hun, daeth y bêl yn ôl at Murray i dirio'n hawdd.

Ar ôl 28 munud daeth yr ail i Sean Maitland. a phasiodd Simon Zebo hi'n gyflym i Sean Maitland. Llithrodd Faletau - a gafodd ei enwi fel chwaraewr gorau'r gêm - yn agos at y llinell, ond wrth i'r bêl gael ie hailgylchu fe basiodd Simon Zebo at Maitland i sgorio yn agos at y gornel.

Wrth i Owen Farrell lwyddo i drosi'r ddau gais, 14-0 oedd y sgôr ddiwedd yr hanner cyntaf.

Cell gosb

Doedd dim rhaid aros yn hir nes bod Y Llewod yn bygwth unwaith eto gyda chais y blaenasgellwr Sean O'Brien wedi 49 munud, ac fe ddaeth yn dilyn pas gelfydd gan gapten y Llewod am y diwrnod, y Cymro Dan Lydiate.

Cais cosb oedd y pedwerydd un wedi i un o chwaraewyr y Rebels, Jordy Reid, gamochri a chael ei anfon i'r gell gosb.

Mi oedd yna un arall i ddod a hynny wedi 73 munud i'r Sais Ben Youngs, canlyniad cydweithio rhyngddo ef a'i gyd chwaraewr i Loegr Tom Croft.

Ym munudau olaf y gêm roedd yn rhaid i'r Llewod amddiffyn, rhywbeth nad oedden nhw wedi gorfod ei wneud llawer cyn hynny.

Serennu

Ond er i'r Rebels bwyso chafon nhw ddim eu gwobrwyo cyn y chwiban olaf.

Er nad oedd hi'n gêm o'r safon uchaf mi oedd ambell i chwaraewr yn serennu, gan gynnwys y Cymry, Dan Lydiate a Toby Faletau.

Mi fyddan nhw a gweddill carfan Y Llewod yn disgwyl yn eiddgar i gael gwybod pwy fydd wedi eu dewis ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia.

Daw'r cyhoeddiad hwnnw gan y prif hyfforddwr, Warren Gatland ddydd Iau.

Mwy Am y Stori Hon

Taith y Llewod 2013

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.