Buddugoliaeth i'r Llewod

George North George North yn sgorio ei gais

Straeon Perthnasol

Fe wnaeth George North ac Alex Cuthbert serennu i'r Llewod wrth iddyn nhw drechu Awstralia o 23 pwynt i 21 mewn gêm hynod gyffrous yn Brisbane.

Roedd y gêm yr un mor agos â mae'r sgôr yn ei awgrymu a bu'r Llewod yn lwcus iawn i ennill y prawf cyntaf wrth i Awstralia fethu dwy gic yn y munudau olaf.

Sgoriodd North gais unigol gwych yn yr hanner cyntaf gan roi Awstralia ar y droed ôl - ac yno yr arhoson nhw.

Gorffennodd Cuthbert symudiad yn hyfryd ar ddechrau'r ail hanner er mwyn coroni perfformiadau gwych gan y chwaraewyr Cymreig.

Cymry wnaeth sgorio holl bwyntiau'r Llewod.

Dechrau addawol i Awstralia

Roedd Awstralia'n edrych yn beryglus yn ystod munudau'r cynta'r gem gan wneud rhediadau effeithiol a thaclo'n gryf.

Roedd O'Connor wedi methu dwy gic gosb wedi saith munud ond roedd hi'n ymddangos yn anochel y byddai'r Awstraliaid yn cael pwyntiau ar y bwrdd yn o fuan.

Er hynny roedd sgarmes y Llewod yn llewyrchus, ac fe wnaeth Jonny Sexton lwyddo i ddarganfod 22 Awstralia wedi enghraifft wych o bŵer y Llewod wrth i Corbisiero chwalu'r Awstraliaid.

Llwyddodd y tîm o hemisffer y de i wrthsefyll y llif y tro hwn ac fe wnaeth Genia dorri'n wych wrth wrthymosod yn gwibio lawr yr asgell.

Fe wnaeth ei gic fedrus ddarganfod Folau, wnaeth lwyddo i'w chodi a mynd a hi dros y llinell am bwyntiau cynta'r gêm.

Llwyddodd O'Connor gyda'i gic y tro hwn gan wneud y sgôr yn 7-0 wrth i'r cloc gyrraedd y chwarter awr.

Fe wnaeth Genia barhau gyda'i waith da gan roi'r Llewod dan bwysau - roeddent yn teimlo rhyddhad wrth weld cic berffaith Leigh Halfpenny'n hedfan rhwng y pyst gyda 22 munud ar y cloc.

Yna fe ddaeth cais unigol wych North - fe ddaliodd y bel rhyw 35 medr allan cyn taranu heibio dau Awstraliad a thwyllo Barnes yn hawdd i'w gwneud hi'n 8-7 i'r Llewod.

Roedd Halfpenny'n llwyddiannus gyda'i gic.

Gwnaeth y sgôr yn 13-7 gyda chic arall ond fe ddaeth Awstralia'n ôl funudau cyn yr hanner amser wrth i Folau sgorio trydydd cais y gêm i wneud y sgôr ar yr hanner yn 13-12 i'r Llewod.

Ail hanner
Alex Cuthbert Cuthbert yn sgorio ail gais y Llewod

Tro Cuthbert oedd hi i serennu ar ddechrau'r ail hanner wrth iddo orffen symudiad hyfryd oedd wedi ei ddechrau gan Jonny Sexton.

Gwnaeth Halfpenny hi'n 18-12 ond roedd hi'n 20-18 gyda 20 munud ar ôl ar y cloc.

Sgoriodd y ddau dîm gic gosb yr un i'w gwneud hi'n 23-21.

Roedd pethau'n edrych yn ddu i'r Llewod wrth i Awstralia dderbyn cig gosb gyda phum munud ar ôl ond llwyddodd Beale i fethu'r gic o dan y pwysau aruthrol.

Methodd eto gydag eiliadau ar ôl wedi iddo lithro.

Bydd Awstralia'n teimlo eu bod wedi bod yn anlwcus i golli'r gêm - y cicio oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y diwedd.

'Llawer rhy agos'

Dywedodd gapten y Llewod Sam Warburton wedi'r gêm: "Roedd hynna'n gyffrous! Llawer rhy agos i ni fod yn gyfforddus.

"Roedd yr 20 munud olaf yn anodd iawn, roedd yn rhaid i ni gloddio mewn. Pob clod i Awstralia, gallwn ni ddisgwyl llawer mwy ganddynt o'r ddau brawf olaf. Dim ond hanner y gwaith sydd wedi ei wneud."

Roedd Warren Gatland yn cydnabod bod y tîm mae'n reoli wedi bod yn lwcus: "Roedd hi'n gêm anodd i ni. Fe wnaethom ni'n dda yn y sgarmes yn ystod yr hanner cyntaf ond ry'n ni'n siomedig gydag ein rheolaeth tîm.

Leigh Halfpennt Halfpenny'n gwneud y sgôr yn 23-18

"Fe roddom ni gwpl o dri pwyntiau hawdd iddyn nhw, ond mae'n dangos pa mor agos mae'r gyfres hon am fod. Fe welom ni geisiadau amrwd gwych allan yno gan y ddau dîm.

"Gallai hi fod wedi mynd y naill ffordd neu'r llall ond fe wnawn ni gymryd hynny."

Bydd gem nesa'r gyfres yn cael ei chwarae yn Melbourne ar 29 Mehefin gyda'r gêm olaf yn cael ei chwarae ar Orffennaf 6 yn Sydney.

Tîm y Llewod: Halfpenny; Cuthbert, O'Driscoll, Davies, North; Sexton, Phillips; Corbisiero, T Youngs, A Jones, A Jones, O'Connell, Croft, Warburton, Heaslip.

Eilyddion: Hibbard, Vunipola, Cole, Parling, Lydiate, B Youngs, Farrell, Maitland.

Dyfarnwr: Chris Pollock (Seland Newydd)

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.