Caerdydd yn ddinas noddfa i geiswyr lloches

Arwydd UK Border Agency Mae ceiswyr lloches yn gorfod gwneud cais i Asiantaeth y Ffiniau er mwyn cael aros yng Nghymru

Straeon Perthnasol

Mae mudiadau ac elusennau wedi cyhoeddi strategaeth sy'n golygu y bydd Caerdydd yn croesawu ceiswyr lloches.

Eisoes mae dinas Abertawe wedi ymroi i wneud hyn yn 2010.

Fe gafodd y syniad ei grybwyll ddwy flynedd yn ôl ac ym mis Rhagfyr 2012 fe gychwynnodd yr ymgyrch.

Y nod yw bod Caerdydd yn croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac yn dathlu eu cyfraniad i fywyd y ddinas.

Taflen

Mae chwe phwynt gweithredu pendant, gan gynnwys adeiladu perthynas rhwng ceiswyr lloches a'r gymuned leol ac asesu'r sefyllfa yn barhaus.

Hefyd maen nhw wedi creu taflen fydd yn cael ei dosbarthu i gymunedau ac awdurdodau dinesig er mwyn annog pobl i gefnogi'r rhai sy'n chwilio am loches yng Nghymru.

Yr awgrym yw y dylai unigolion roi arwydd tu allan i'w hadeilad neu swyddfa yn dweud eu bod yn croesawu ceiswyr lloches, cynnig profiad gwaith, llety mewn argyfwng a gofyn iddyn nhw annerch eu mudiadau.

Yn yr ymgyrch mae Oxfam Cymru, Cyngor Caerdydd, Tros Gynnal, Cytun a Chanolfan Cymru ar gyfer Materion Rhyngwladol.

56.9%

Yn 2001 fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain leoliadau lle y byddai ceiswyr lloches yn cael eu hanfon. Yng Nghymru y rhain oedd Abertawe, Wrecsam a Chaerdydd.

Yn ôl ffigyrau'r mudiad ymbarél oedd yn ymgyrchu i wneud y brif ddinas yn ddinas noddfa, roedd 2,322 o geiswyr lloches yn byw yng Nghymru ddiwedd mis Mai 2009 gyda 56.9% o ffoaduriaid yn byw yng Nghaerdydd, 24.2% yn Abertawe, 15.7% yng Nghasnewydd a 3.2% yn Wrecsam.

Mae hyn yn cyfateb i 0.3% o boblogaeth Cymru.

'Heddwch'

Dywedodd Geraint Hopkins Swyddog Polisi Cytun, mudiad Eglwysig Ynghyd yng Nghymru: "Rydyn ni yn credu ei bod hi'n bwysig fel dynoliaeth ein bod ni yn cydnabod y sefyllfa druenus y mae nifer o geiswyr lloches yn ei wynebu sydd yn golygu eu bod yn gorfod ffoi er mwyn cael heddwch a sicrwydd i'w teulu a'u ffrindiau.

"Mae 'na falchder a hunanhyder yng Nghymru ac mae bod yn groesawgar, yn rhesymol a dangos parch yn nodweddion amlwg.

"Rydyn ni yn glymblaid o bobl, mudiadau, busnesau a grwpiau sydd wedi ymroi i'r fenter o gydnabod Caerdydd fel dinas noddfa, gan groesawu rhai sydd yn ffoi rhag trais ac yn cael eu herlid yn eu gwledydd eu hunain.

"Yn sicr, rydyn ni yn cydnabod yr hyn mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu i ddinas Caerdydd."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.