Eisteddfod 2013: Yr hen a'r newydd

Safle'r Eisteddfod yn Ninbych Mae'r Brifwyl yn cael ei chynnal ar dir Fferm Kilford ger Dinbych rhwng Awst 2-10

Ddechrau mis Awst, bydd y sylw'n troi at ddarn o dir glas mewn rhan hyfryd o Ddyffryn Clwyd.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 yn cael ei chynnal ar gyrion tref Dinbych ar y ffordd i Landyrnog, ar yr union safle lle roedd hi yn 2001.

Gyda rhyw chwe wythnos i fynd, mi es i ar daith arbennig i ddysgu am hanes yr ardal, yn ogystal â rhai o'r pethau newydd fydd yn cael eu cynnig gan y Brifwyl eleni.

Dechreuodd y daith yng Nghastell Dinbych. Y castell, wrth gwrs, yw un o brif atyniadau'r dref.

Roedd y safle yn un o gestyll Edward I ac fe'i adeiladwyd yn y 13eg ganrif gan un o brif swyddogion y brenin, Henry de Lacy. Roedd yn safle pwysig gan ei fod wedi ei adeiladu ar dir Dafydd ap Gruffudd, ac felly'n pwysleisio grym Lloegr dros Gymru.

Teithiau ymwelwyr

Start Quote

Y Tywysydd, Medwyn Williams

Da ni'n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr i'r dre' - mae gennym ni amrywiaeth o deithiau tywys yn cael eu cynnal ”

End Quote Medwyn Williams Tywysydd, Castell a thref gaergog Dinbych

Un o'r rhai sy'n tywys ymwelwyr o gwmpas yr atyniad erbyn hyn yw Medwyn Williams.

"Da ni'n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr i'r dre' - mae gennym ni amrywiaeth o deithiau tywys yn cael eu cynnal ar y Sadwrn a'r Sul fel arfer, tua 11 y bore tu allan i'r llyfrgell," meddai.

"Ond 'da ni hefyd yn trefnu teithiau ychwanegol - ar y nos Fawrth, er enghraifft, mi fydd 'na daith o gwmpas tafarndai Dinbych. 'Da ni hefyd am gynnal teithiau eraill ar y nos Iau.

"Mi fydd 'na gyfle i bobl gysylltu â chyngor y dre' i drefnu teithiau ychwanegol."

Ar y daith, cawsom wybod am gynlluniau'r Eisteddfod i gynnal arddangosfa yn ymwneud â hen ysbyty meddwl Dinbych - un o brif gyflogwyr yr ardal cyn i'r safle gau yn y 1990au.

Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau'r Eisteddfod, fu'n egluro mwy:

"Pendefynodd yr is-bwyllgor y gellid trefnu arddangosfa falle, wedi'i hysbrydoli gan y ffenomena oedd y sefydliad - hynny ydy, roedd yn dipyn o ddylanwad yn gymdeithasol ac yn ddiwyllianol, heb sôn am yr ochr iechyd.

"Aethpwyd ati wedyn i gomisiynu artist o Ruthun o'r enw Simon Proffitt i gydweithio gyda'r actor Eilir Jones, oedd arfer â bod yn nyrs yn yr ysbyty ei hunain, i ymateb i'r syniad yma o'r ysbyty.

"Ar hyn o bryd maen nhw'n ystyried sut i annog y cyhoedd i ymateb. Be' sy'n ddiddorol o'i gymharu â pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwetha' yn 2001, yw bod pobl yn fwy parod i rannu eu straeon."

Copi o Feibl William Morgan Mae copi prin o Feibl William Morgan i'w weld yng Nghadeirlan Llanelwy
Esgob William Morgan

Dyma droi'r sylw at Llanelwy nesa', a gafodd statws dinas yn 2012. Un o'r prif atyniadau yno yw'r Eglwys Gadeiriol, a ddefnyddiwyd fel man addoli ers y flwyddyn 560 O.C.

Mae'r Esgob William Morgan wedi ei gladdu yn rhywle ar y safle, ac mae un o'i feiblau prin i'w gweld yno hefyd.

Mae Nigel Williams, Deon Llanelwy, yn annog Eisteddfodwyr i ymweld â'r ddinas:

"Mae'n fangre i'r iaith Gymraeg yn fwy na dim arall ac yn lle o addoliad dros y canrifoedd. Mae 'na gymaint i bobl weld yma. Mi fydd yn hoe bach neis i bobl o ddwyster maes yr Eisteddfod - lle iddyn nhw fod yn dawel ac i fyfyrio, neu i olrhain hanes."

Agweddau newydd

Ar ôl cael gweld rhywfaint o'r ardal, cyfle cyn gorffen y daith i glywed am rai o gynlluniau'r Eisteddfod ar gyfer mis Awst.

Y Pafiliwn pinc yn barod i'w godi Y Pafiliwn pinc yn barod i'w godi ar y maes

Gwenllian Carr, Swyddog Cyfathrebu'r Eisteddfod, fu'n sôn am rai o'r pethau newydd fydd ar gael eleni:

"Mae gennym ni ganolfan ymwelwyr eleni, yn hytrach na chanolfan groeso. 'Da ni'n gwneud llawer mwy o ddefnydd o dechnoleg eleni hefyd, mae gynnon ni wefan ymatebol sydd, gobeithio, yn mynd i helpu pobl i gynllunio'u hwythnos o flaen llaw.

"Mae gennym ni 'app' newydd i sicrhau bod chi'n cael amser i gofio, gobeithio, ar y maes. Mi fyddwch chi'n gallu ychwanegu amserlen ar gyfer popeth sy'n digwydd sy'n cael ei drefnu gan yr Eisteddfod.

"Ac mae gennym ni declyn bach sy'n mynd i'ch helpu chi ffeindio'ch car ar ddiwedd y dydd ac mae pawb wedi gwirioni ar hwnnw!"

Mwy Am y Stori Hon

SIR DDINBYCH 2013

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.