Cyhoeddi cynigion ad-drefnu addysg

Iard yr ysgol (Cyffredinol) Bydd penderfyniad terfynol yn Nhachwedd neu Ragfyr.

Straeon Perthnasol

Mae argymhellion ad-drefnu ar gyfer rhai o ysgolion cynradd Rhuthun a'r Cylch wedi eu cyhoeddi.

Mae'r cynigion yn cynnwys cau Ysgolion Clocaenog a Chyffylliog ar Awst 31 2014 a sefydlu ysgol ardal newydd ar Fedi 1 2014, cau Ysgol Llanbedr ar Awst 31 2014 a ffederaleiddio Ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd erbyn Medi 1 2014.

Argymhelliad arall yw edrych ymhellach ar bedair ysgol arall, Stryd Rhos, Borthyn, Penbarras a Rhewl.

Dywedod Eryl Williams, Aelod Arweiniol ar Addysg Cyngor Sir Ddinbych: "Mae 'na ddiffyg gwariant wedi bod ar adeiladau ers y nawdegau cynnar.

'Llefydd gwag'

"Ardal eang yw hon ac mae 'na broblem wedi bod o ran llefydd gwag.

"Does neb isio gweld ysgol yn cau ... ond mi ydan ni'n buddsoddi yng nghefn gwlad er mwyn cael ysgolion cryfach ..."

Ar Fehefin 25 bydd Cabinet Sir Ddinbych yn penderfynu p'un ai i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ai peidio.

Os ydyn nhw o blaid, bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ym Medi.

Dywedodd Mr Williams y byddai penderfyniad terfynol yn Nhachwedd neu Ragfyr.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.