Cymry ifanc yn y rownd derfynol

Jordan Williams Jordan Williams o'r Scarlets wnaeth sgorio'r cais holl-bwysig

Straeon Perthnasol

Cymru 18-17 De Affrica

Mae Cymru wedi cyrraedd rownd olaf cwpan ieuenctid y byd wedi buddugoliaeth gyffrous yn erbyn De Affrica.

Fe wnaeth Sam Davies lwyddo i drosi yn y funud olaf wedi cais Ashley Evans er mwyn sicrhau lle Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf.

Rhoddodd Davies Gymru 6-0 ar y blaen gyda dwy gic gosb, ond daeth De Affrica yn ôl wrth i Irné Herbst sgorio cais, gyda Handré Pollard yn trosi er mwyn rhoi ei dim ar y blaen.

Yn hwyrach fe roddodd gais Ellis Jenkins Gymru'n ôl ar y blaen, ond daeth y Springboks yn ôl unwaith eto - Kwagga Smith yn sgorio cais y tro hwn a Pollard yn trosi unwaith eto.

Torri'n wych

Roedd pethau'n edrych yn ddu ar Gymru bum munud cyn ddiwedd y gêm wrth i'r canolwr lwyddo gyda chic gosb arall.

Ond fe wnaeth Jordan Williams dorri'n wych yn y munudau olaf er mwyn rhoi gobaith i'w dîm, a llwyddodd Evans i ddal cic berffaith Sam Davies er mwyn dod a Chymru o fewn pwynt i Dde Affrica.

Llwyddodd Davies i gadw'i ben a thrwy hynny mynd â'i wlad i'r rownd derfynol y twrnament i chwaraewyr dan 20.

Fe gurodd Cymru dan-20 Ariannin dan-20 o 25-20 i orffen ar frig grŵp C yn y gystadleuaeth ddydd Iau diwethaf.

Aeth Cymru i'r rownd gynderfynol y tymor diwethaf hefyd, ond mae'r hyfforddwr Danny Wilson yn benderfynol o fynd un cam yn well y tro hwn.

"Rydym wedi cael golwg go dda ar Dde Affrica erbyn hyn," meddai Wilson cyn y gêm, "ac fe fydd gan ein pac lawer iawn o waith i wneud ddydd Mawrth."

"Maen nhw'n debyg i'r tîm llawn, sef pac trwm, ond mae ganddyn nhw hefyd dri o'r olwyr sy'n beryglus iawn ac fe fydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus.

"Rydym yn falch o gyrraedd y nod a osodon ni i ni'n hunain ar y dechrau, sef cyrraedd y pedwar olaf, ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto."

TÎM BUDDUGOL CYMRU DAN-20 v DE AFFRICA DAN-20: Stade de la Rabine, Vannes, Ffrainc

15. Jordan Williams (Scarlets / Llanelli);

14. Ashley Evans (Gweilch/ Pen-y-bont);

13. Steffan Hughes (Scarlets / Llanelli);

12. Jack Dixon (Dreigiau);

11. Hallam Amos (Dreigiau/Casnewydd);

10. Sam Davies (Gweilch/Abertawe);

9. Rhodri Williams (Scarlets/ Llanymddyfri);

1. Gareth Thomas (Scarlets/ Cwins Caerfyrddin);

2. Ethan Lewis (Gleision/Caerdydd);

3. Nicky Thomas (Gweilch/Abertawe);

4. Jack Jones (Gweilch/Rovigo);

5. Rhodri Hughes (Gweilch/Abertawe);

6. Sion Bennett (Scarlets/ Caerfyrddin);

7. Ellis Jenkins (capten, Gleision/Caerdydd);

8. Ieuan Jones (Dreigiau/Casnewydd).

Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau/Bedwas), Thomas Davies (Gleision/Caerdydd), Dan Suter (Gweilch/Pen-y-bont), James Benjamin (Dreigiau/Bedwas), Daniel Thomas (Scarlets/ Llanelli), Joshua Davies (Dreigiau/Bedwas), Aaron Warren (Llanymddyfri), Thomas Pascoe (Gleision/Pontypridd).

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.