Syria: hanesion rhai sydd wedi ffoi i Gymru

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 1.75 miliwn o bobl wedi ffoi o Syria ers dechrau yr ymladd a'r gwrthyryfel dair blynedd yn ôl. Erbyn diwedd y flwyddyn yma maent yn darogan y bydd hanner y boblogaeth, mwy na 10 miliwn, angen help.

Er mwyn delio gyda'r nifer cynyddol o ffoaduriaid mae'r Cenhedloedd Unedig wedi lansio ei apêl fwyaf erioed ac yn gofyn am £3.2 biliwn ar gyfer cymorth dyngarol i Syria.

Ar drothwy wythnos ffoaduriaid - sydd yn ceisio annog gwell dealltwriaeth o hanes Prydain yn rhoi lloches i bobl sydd yn ffoi- mae rhaglen Radio Wales BBC Eye on Wales wedi bod yn siarad gyda thri sydd yn dod o Syria ond sydd wedi ymgartrefu erbyn hyn yng Nghymru.

RONAHI HASAN
Ronahi Hasan Mae Ronahi Hasan yn dweud bod ymgartrefu mewn gwlad arall wedi bod yn anodd

Roedd Ronahi yn arfer byw yn ninas Kamishli yng ngogledd Syria. Ond mi wnaeth hi a'i theulu ffoi o'r wlad yn 2009 er mwyn iddyn nhw osgoi cael eu herlyn gan gyfundrefn yr Arlywydd Bashar al-Assad a hynny am eu bod yn aelodau o'r lleiafrif Cwrdiaid. Maent nawr yn byw yng Nghaerdydd.

"Doedd y sefyllfa i'r Cwrdiaid ddim yn grêt. Roedden ni yn dioddef. Doedd e'n ddim byd newydd. Ers 40 mlynedd mae'r Cwrdiaid wedi bod yn dioddef yn Syria..yn enwedig ar ôl 2004 a chwyldro'r Cwrdiaid. Yna fe aeth y sefyllfa yn waeth ac yn waeth.

"Dychmygwch eich bod chi yn byw ar eich tir eich hun ond allwch chi ddim bod yn berchen arno fe, ddim yn cael y gweithredoedd. Dychmygwch. Mae e yn anhygoel. Roedd yna ormod o orthrwm. Felly mi benderfynodd fy nheulu i ffoi.

"Roedd y daith yn un anodd iawn. Mi oedden ni ofn pob cam roedden ni yn eu cymryd. Roedd e yn ofnadwy. Doedd dim dewis gyda ni. Os ydych chi eisiau byw mewn heddwch, bod yn saff, mae'n rhaid i chi wneud e. Fel arall dydych chi ddim yn gwybod beth fydd eich ffawd yn Syria.

"Pan gyrhaeddais i Brydain doeddwn i ddim yn siarad Saesneg. Dychmygwch, os nad ydych chi yn siarad yr iaith a does dim syniad gyda chi ynglŷn â'r diwylliant, y bobl, y ffordd o fyw. Mae e yn anodd iawn.

"Yn fan hyn mae'n rhaid i chi ddechrau o ddim byd, adeiladu o ddim byd. Os oes gyda chi gymwysterau nol adref - fel fi a fy ngŵr- allwch chi ddim eu defnyddio nhw fan hyn.

"Rydyn ni yn fyfyrwyr eto, fel oedden ni yn yr ysgol gynradd. Mae'n rhaid i chi ddysgu Saesneg, gam wrth gam. Mae'n siwrne hir iawn."

"Rydyn ni yn ceisio ein gorau i gymryd rhan ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Rydyn ni eisiau bod yn rhan o'r wlad a dangos ein gwerthfawrogiad ein bod ni wedi ein croesawu gyda breichiau agored yma."

DR SAMEH OTRI
Dr Sameh Otri Dyw Dr Sameh Otri ddim wedi bod yn ôl yn Syria ers 2006

O Aleppo, fe ddaeth i astudio yng Nghaerdydd yn 2000. Dyw e ddim wedi dychwelyd i Syria ers 2006 pan wrthododd fynd nôl adref i ymuno gyda'r fyddin. Nawr mae'n rheolwr Canolfan Lles ac Addysg Fwslemaidd yn y ddinas ac fe helpodd i sefydlu elusen i godi arian ar gyfer adnoddau meddygol ac addysgiadol. Mae wedi ymweld â gwersylloedd ffoaduriaid ar y ffin rhwng Twrci a Syria dair gwaith.

"Un o'r gwersylloedd oedd camp Atma. Mae 13,000 o ffoaduriaid yno. Mae e ar dir anial felly does yna neb i edrych ar ol y gwersyll yn swyddogol. Mae yna bobl o fudiadau bach yno ond does 'na neb o lywodraeth Twrci neu Syria i edrych ar eu holau nhw.

"Fe wnaethon ni gyfarfod mamau oedd yn dweud nad oedden nhw wedi cael llaeth am wythnos. Does yna ddim trydan, mae'r dŵr yn frwnt, does yna ddim toiledau iawn. Fe welais i blentyn 10 oed yn cario gwn. Dyw e ddim yn lle saff o gwbl.

"Ar ol dod yn ol fe glywais fod cyfundrefn Assad wedi ymosod ar y gwersyll gydag awyrennau a gynnau mawr.

"Ar gyfer yr ail drip i ryw ysgol mi wnaethon ni gasglu deunyddiau celf ar gyfer gweithdy addysgiadol. Mi oedden ni wrthi yn gynnar yn y bore tan 7 y nos, yn ceisio cael y plant i wenu.

"Fe fydden i yn gofyn iddyn nhw ddylunio beth bynnag oedden nhw yn meddwl amdano. Fe fydden nhw yn gwneud lluniau o danciau a phobl yn ymladd. Wedyn fe fydden i yn rhoi seren neu galon neu pili pala - delweddau neis - iddyn nhw gael eu newid nhw.

"Mae e yn ffordd iddyn nhw siarad am eu profiadau. Maen nhw'n siarad am sut maen nhw wedi colli eu mam neu dad neu sut mae eu brodyr dal yn Syria. Mae ganddyn nhw i gyd straeon am weld marwolaeth yn digwydd o flaen eu llygaid."

MELHEM MANSOUR
Melhem Mansour Cafodd Melhem Mansour ei alltudio o Syria ar ôl iddo gael ei arestio

O Damascus, ond nawr yn byw yng Nghaerdydd. Wedi ymgyrchu i gael newid hyd yn oed cyn i'r Gwanwyn Arabaidd gyrraedd Syria. Fe gafodd ei arestio pan ddechreuodd y gwrthryfel a chael dewis i fod yn 'ferthyr', ei garcharu neu ei alltudio o'i wlad. Mae ei rieni yn parhau ym mhrifddinas Syria.

"Mae gyda chi lot o 'checkpoints' yn Damascus. Falle bod yn rhaid i chi fynd trwy 12 ohonyn nhw - sydd yn cymryd tua awr dim ond i deithio pellteroedd bach. A dydyn nhw ddim yn saff achos mae 'na ryw fath o fomio yn digwydd bob tro.

"Mewn sawl lle mae yna bobl yn cael eu herwgipio. Fe gafodd rhai o fy nhylwyth eu herwgipio. Roedden nhw fod i dalu symiau mawr o arian ond doedd dim arian fel yna gyda nhw. Roedd yn rhaid iddyn nhw roi eu ceir neu werthu eu siopau i gael dychwelyd at eu teuluoedd.

"Mae yna lawer o bobl ar goll - does dim record i ddweud os ydyn nhw wedi eu harestio, wedi marw neu eu herwgipio. Mae yna tua 5,000 o bobl heb record. Mae gyda chi o leiaf 20,000 o bobl sydd wedi eu harestio ar draws y wlad.

"Mae mwy na 10 miliwn o bobl sydd angen bwyd a dŵr ffres yn y wlad a gwledydd o gwmpas Syria. Dyna pam mae'n rhaid i ni feddwl am sut i stopio'r gwrthdaro yma. Wrth i'r rhyfela fynd yn ei flaen mae'r rhoddion rhyngwladol a'r gefnogaeth yn lleihau am nad yw'r gymuned ryngwladol yn medru fforddio i roi cymorth i Syria."

BBC Eye on Wales ar Radio Wales 13.30 dydd Sul Mehefin 16

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.