Heineken: Yr enwau o'r het

Toulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken eleni Toulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken eleni

Er mai newydd ddechrau mae taith haf y Llewod, mae rhanbarthau rygbi Cymru eisoes yn gwybod pwy fyddan nhw'n wynebu yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn Nulyn ddydd Mercher, a does yr un o ranbarthau Cymru wedi cael eu gosod mewn grŵp hawdd.

Er hynny mae'n debyg mai'r Gweilch fydd â'r dasg anoddaf i aros yn y gystadleuaeth.

Fe fyddan nhw yng Ngrŵp 1 gyda phencampwyr 2011 a deiliaid Cwpan Her Amlin, Leinster, Pencampwyr Ffrainc, Castres a chlwb newydd George North, Northampton.

Yng ngrŵp 2 fydd y Gleision gyda Glasgow, Caerwysg a'r pencampwyr presennol o Toulon.

Enillodd Toulon y rownd derfynol eleni yn erbyn Clermont Auvergne, ac fe fyddan nhw'n un o wrthwynebwyr y Scarlets ynghyd â'r Harlequins a Racing Metro.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het hefyd ar gyfer Cwpan Her Amlin y tymor nesaf, gyda'r Dreigiau ymysg yr ail ddetholion.

Fe fyddan nhw'n wynebu Caerfaddon, Bordeaux-Begles a Rugby Mogliano o'r Eidal.

GRWPIAU CWPAN HEINEKEN 2013/14

Grŵp 1

Leinster, Northampton, GWEILCH, Castres

Grŵp 2

Toulon, GLEISION, Glasgow, Caerwysg

Grŵp 3

Toulouse, Saracens, Connacht, Zebre

Grŵp 4

Clermont, Harlequins, SCARLETS, Racing Metro

Grŵp 5

Ulster, Caerlŷr, Montpellier, Treviso

Grŵp 6

Munster, Perpignan, Caeredin, Caerloyw

GRWPIAU CWPAN HER AMLIN 2013/14

Grŵp 1

Biarritz Olympique Pays Basque, Oyonnax, Sale Sharks, Caerwrangon

Grŵp 2

Caerfaddon, Bordeaux-Begles, DREIGIAU, Rugby Mogliano

Grŵp 3

Brive, Bucharest Wolves, Cammi Rugby Calvisano, Newcastle Falcons

Grŵp 4

Bayonne, Grenoble, Wasps, Viadana

Grŵp 5

I Cavalieri Prato, Gwyddelod Llundain, Olympus Rugby XV Madrid, Stade Francais Paris

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.