Llewod: Y Cymry'n disgleirio

Mike Phillips Mewnwr Cymru, Mike Phillips, yn sgorio un o ddau gais yn erbyn y Barbariaid

Fe chwaraeodd y Cymry ran amlwg iawn wrth i'r Llewod guro'r Barbariaid o 59 pwynt i 8 yng nghêm agoriadol y daith.

Er gwaetha'r amgylchiadau poeth a llaith fe lwyddodd y Llewod i ennill yn gyfforddus yn Stadiwm Hong Kong.

Y mewnwr Mike Phillips, oedd y chwaraewr wnaeth yr argraff fwyaf gyda dau gais. Fe groesodd asgellwr y gleision Alex Cuthbert ddwywaith hefyd.

Y gwyddel a'r capten Paul O'Connell gafodd y cais agoriadol. Roedd yna geisiau hefyd i ganolwr y Sacrlets Jonathan Davies, blaen asgellwr y Dreigiau Dan Lydiate a chlo'r Gweilch Alun Wyn Jones.

Fe giciodd maswr Lloegr Owen Farrell 15 pwynt, ond gêm gymysg gafodd e. Fe sgoriodd y gwyddel ddau drosiad ar ôl i Farrell gael ei eilyddio.

Kahn Fotuali'i o Samoa sgoriodd uni gais y Barbariaid. Roedd yna gic gosb hefyd i ganolwr y Wasps Elliot Daly.

Fe aeth y Llewod ar y blaen yn gynnar yn y gêm gyd chic gosb gan Farrell. Yn fuan wedyn cafodd bachwr y Barbariaid Schalk Brits y cerdyn melyn am ddyrnu'r maswr.

Tra roedd Brits yn y gell gosb mi lwyddodd y Barbariaid i dod yn gyfrtal gyda chig gosb o bellter gan Daly.

Brits yn dyrnu maswr y Llewod Owen Farrell Cyfnod yn y gell gosb i'r bachwr Schalk Brits am ddyrnu Owen Farrell

Cryfhau yn yr ail chwarter

Yn ail chwarter y gêm fe gryfhaodd y Llewod. Bu bron i Phillips sgorio cais cyn i O'Connell ddeifio rhwng pentwr o gyrff i sgorio. Roedd Farrell yn llwyddiannus gyda'r trosiad.

Fe gafodd y mewnwr o San Clêr ei wobr yn fuan wedyn ar ôl rhedeg 20 metr at y llinell. Cafodd y cais ei drosi gan Farrell.

23 i 3 oedd mantais y Llewod ar yr egwyl. Ond ar ôl 4 munud o'r ail hanner fe wnaeth y fantais honno ymestyn wrth i Phillips groesi am yr eildro. Cfaodd y cais ei ddilyn gan chweched cic lwyddiannus Farrell.

Aeth blaen asgellwr Cymru Jason Tipuric yn agos at ychwanegu at y sgôr ond llwyddodd Joe Rokocoko ei atal cyn iddo groesi'r llinell.

Chwaraeodd y gŵr o Seland Newydd ran allweddol yn unig gais y Barbariaid. Fe rwygodd yr asgellwr trwy amddiffyn y Llewod cyn i Fotuali'i groesi.

Agor y llifddorau

Fe wnaeth y Llewod ad-ennill eu mantais yn fuan wedyn gyda Jonathan Davies yn sgorio cyn i Alex Cuthbert geisio hawlio ei le yn y tim prawf gyda dau gais mewn saith munud.

Croesodd y Llewod yr hanner can pwynt pan groesodd Dan Lydiate y llinell. Cafodd pnawn llwyddiannus y Cymry ei goroni pan sgoriodd yr eilydd Alun Wyn Jones yn y munudau olaf.

Ond nawr bydd y gwaith caled yn dechrau o ddifrif i'r Llewod wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith i Awstralia.

Y Llewod: S Hogg (Alban); A Cuthbert (Cymru), J Davies (Cymru), J Roberts

(Cymru), S Maitland (Alban); O Farrell (Lloegr), M Phillips (Cymru); M

Vunipola (Lloegr), R Hibbard (Cymru), A Jones (Cymru), R Gray (Alban), P

O'Connell (Iwerddon, capten), D Lydiate (Cymru), J Tipuric (Cymru), T Faletau

(Cymru).

Eilyddion: T Youngs (Lloegr), C Healy (Iwerddon), M Stevens (Lloegr), A-W

Jones (Cymrus), J Heaslip (Iwerddon), C Murray (Iwerddon), J Sexton (Iwerddon), G

North (Cymru).

Y Barbariaid: Jared Payne (Ulster), Joe Rokocoko (Seland Newydd ), Elliot Daly (London Wasps), Casey Laulala (Seland Newydd), Takudzwa Ngwenya (America), Nick Evans (Seland Newydd), Dimitri Yachvili (Ffrainc); Paul James (Cymru), Schalk Brits (De Affrica), Martin Castrogiovanni (Yr Eidal), Marco Wentzel (De Affrica), Dean Mumm (Awstralia), Samu Manoa (America), Sam Jones (London Wasps), Sergio Parisse (Yr Eidal, capten).

Eilyddion: Leonardo Ghiraldini (Yr Eidal), Duncan Jones (Cymru), Andrea Lo Cicero (Yr Eidal), Jim Hamilton (Alban), Imanol Harinordoquy (Ffrainc), Kahn Fotuali'i (Samoa), James Hook (Cymru), Mike Tindall (Lloegr)

Dyfarnwr: Steve Walsh (Awstralia).

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.