Llewod am ddechrau ar dân

Warren Gatland Mae Warren Gatland yn canolbwyntio ar ennill y gyfres yn Awstralia

Bydd tîm rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon yn dechrau taith 2013 yn ddiweddarach drwy herio'r Barbariaid yn Hong Kong, ac maen nhw'n benderfynol o ddechrau'r daith gyda buddugoliaeth.

Cyn symud ymlaen i Awstralia ar gyfer naw gêm yno, mae'r Llewod am yrru neges i'r cyfryngau yn Awstralia sydd wedi bod yn ddilornus o obeithion y tîm teithiol.

Fe fydd naw Cymro yn dechrau'r gêm gyntaf mewn amodau anodd yn Hong Kong lle mae'r tymheredd oddeutu 32 Celsius hyd yn oed pan fydd y gêm yn cael ei chwarae am 7:30pm amser lleol.

Ond dywedodd hyfforddwr y Llewod Warren Gatland: "Rydym am fynd allan a chwarae rygbi a bod yn bositif am y ffordd y byddwn yn chwarae.

TAITH Y LLEWOD I AWSTRALIA 2013

  • Sad., Mehefin 1 - Barbariaid, Hong Kong
  • Mer., Mehefin 5 - Western Force, Perth
  • Sad., Mehefin 8 - Queensland Reds, Brisbane
  • Mer., Mehefin 12 - Tîm cyfunol New South Wales-Queensland Country, Newcastle
  • Sad., Mehefin 15 - New South Wales Waratahs, Sydney
  • Maw., Mehefin 18 - ACT Brumbies, Canberra
  • Sad., Mehefin 22 - Prawf Cyntaf, Brisbane
  • Maw., Mehefin 25 - Melbourne Rebels, Melbourne
  • Sad., Mehefin 29 - Ail Brawf, Melbourne
  • Sad., Gorffennaf 6 - Trydydd Prawf, Sydney

"Fe fyddwn ni'n symud y bêl, rydym am sgorio nifer o geisiau. Rydym am ddangos i'r cyhoedd yn Awstralia beth yr ydym yn gallu gwneud.

"Rydym yn teimlo fod gennym garfan gyda'r gallu i chwarae unrhyw fath o gêm a beth bynnag yw'r amodau y byddwn yn wynebu."

Er hynny mynnodd Gatland hefyd mai ennill y gyfres yn erbyn Awstralia yw'r prif nod, a hynny'n awgrymu efallai na fydd yn gweld colli ambell gêm ar y ffordd i wneud hynny.

Y tro diwethaf i'r Llewod golli eu gêm agoriadol ar daith oedd yn 1971, ac eto fe aeth y tîm yna ymlaen i fod yr unig dîm o Lewod i ennill cyfres yn Seland Newydd.

Mae gan Gatland bum gêm cyn y bydd rhaid iddo benderfynnu ar ei dîm ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia yn Brisbane ar Fehefin 22.

Yn y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn y Barbariaid fe fydd heb wasanaeth ei gapten Sam Warburton oherwydd anaf, ynghyd â nifer o chwaraewyr eraill sy'n diodde' o fan anafiadau ar ddiwedd tymor caled.

Fe fydd yr hyfforddwr yn gobeithio osgoi mwy o anafiadau ar ddechrau taith y mae nifer yn credu y gall y Llewod ennill - y tro cyntaf iddyn nhw ennill cyfres ers 1997.

Mwy Am y Stori Hon

Taith y Llewod 2013

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.