Rhys Penry-Williams yn ennill y Fedal Ddrama

Rhys Penry-Williams Dywed Rhys Penry-Williams fod ganddo waith ysgrifennu newydd ar y gweill

Myfyriwr o Gaerdydd sy'n astudio'r gyfraith sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2013.

Mae Rhys Penry-Williams, 22 oed, o'r Eglwys Newydd yn y brifddinas ar fin graddio yn y gyfraith o Brifysgol Nottingham a bydd yn mynd ymlaen i hyfforddi'n fargyfreithiwr fis Medi.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno am ddrama lwyfan un act sydd yn cymryd rhwng 40 a 60 munud i'w pherfformio.

Cystadlodd Rhys dan y ffug enw Hughie Ferguson gyda gwaith o'r enw Emanuel.

Mae'n gyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

'Treiddgar'

Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Siwan Jones ar ran ei chyd feirniad Sera Moore Williams a hithau fod ganddo "feddwl disglair, treiddgar a heriol".

"Stori am Gruff yw Emanuel," meddai Siwan Jones o'r llwyfan. "Cymeriad cymhleth sy'n dychwelyd adre i Dafarn y Preseb gyda phob math o broblemau seicolegol ynghyd â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Taith Gruff yn y ddrama yw ceisio chwilio am gyfeiriad a phwrpas i'w fywyd.

CANLYNIADAU

Mae holl ganlyniadau'r dydd yn yr eisteddfod ar gael ar wefan yr Urdd ac S4C. Cliciwch ar y dolenni isod:

"Mae hi'n ddrama sy'n gogleisio a'r dafod yn y boch yn aml. Ond mae diffuantrwydd mawr yn perthyn i'r gwaith hefyd, ynghyd â llinellau yn llawn hiwmor du, 'O'n i fel twrci oer mewn brechdan Gŵyl San Steffan'.

"Mae gan y dramodydd yma ddawn i ysgrifennu barddoniaeth, deialog fachog ysgafn ddoniol, deialog bytiog rythmig ac ar adegau eraill, deialog araf a dwys. Ac mae cyffyrddiadau swreal, ymddangosiad yr angylion yng nghanol y realaeth gignoeth, yn rhoi egni i'r ddrama."

'Cyfrinach'

Er ei fod yn dechrau hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain fis Medi mae Rhys yn dweud ei fod eisiau parhau i ysgrifennu ac mae ganddo waith arall ar y gweill ond mae'n "gyfrinach" meddai.

"Mi wnes i ddechrau magu diddordeb mewn ysgrifennu creadigol tra'n Ysgol Gynradd Melin Gruffydd, Caerdydd.

"Os ydw i'n 'sgwennu rhywbeth arall, bydden i'n licio treulio lot mwy o amser yn 'sgwennu a'i wneud fel rhywbeth llawn amser yn lle fel rhywbeth ar yr ochr. Mae be sy'n dod nesa yn gyfrinach - dwi'n gwybod yn union," meddai.

Ychwanegodd ei fod eisiau gweld y ddrama'n cael ei pherfformio gan "nad rhywbeth ar bapur ddylai hi fod".

Rhys Penry-Williams Dywed Rhys Penry-Williams fod ganddo waith ysgrifennu newydd ar y gweill.

Mae'n sôn am Salinger, Hemingway a Christopher Marlowe fel dylanwadau.

"Nes i ddarllen Franny and Zooey gan Salinger a'i straeon byrion ef a Hemingway cyn, yn ystod, ac ar ôl sgwennu'r ddrama hon a dwi'n credu bod dylanwadau o'r hyn nes i ei astudio yn yr ysgol hefyd.

"Bues i'n ffodus iawn o gael mynd i ysgol lle maen nhw'n eich gwthio chi o ran 'sgwennu a be chi'n astudio o fewn drama," meddai.

Dywedodd fod dylanwad Dylan Thomas ar y gwaith hefyd "o ran enwau llefydd fel Caer Castell neu Abertwlldîn" gan adleisio'r enw Llareggub yn ei ddrama enwog Under Milk Wood.

Ond does dim un dylanwad mawr meddai: "Fel unrhyw un sy'n 'sgwennu, maen nhw'n darllen lot fawr o bethau gwahanol a dwi'n credu y mwya' rydych chi'n ei ddarllen a'r mwya' o amrywiaeth rydych chi'n ei ddarllen rydych chi'n mynd i fedru sgwennu'n well yn y pen draw."

Themâu

Tra'n ddisgybl yn Ysgol Glantaf daeth yn drydydd mewn cystadleuaeth ysgrifennu drama lwyfan yn yr Urdd, ac yn y chweched dosbarth cafodd un o'i straeon byrion, Dafydd, ei gyhoeddi yng nghylchgrawn llenyddol Taliesin.

Daeth Gwenno Elin Griffith, Aelwyd Gwrtheyrn, Cylch Llŷn yn ail a Ioan Gwilym o Gylch Eifionydd yn drydydd.

Fel nifer o feirniaid y prif seremonïau yr wythnos hon, dywedodd Siwan Jones ei bod yn "siomedig" bod cyn lleied o weithiau wedi dod i law - dim ond pump.

Ychwanegodd mai "Duw, canser, Cymreictod ac alcoholiaeth" yw'r themâu sy'n rhedeg yn gyson drwy'r gweithiau a ddaeth i law gan y bobl ifanc.

Cafodd drama fuddugol Eisteddfod yr Urdd 2012, Y Weiran Bigog gan Llŷr Titus Hughes, ei darlledu ar Radio Cymru.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.