5,000 yn llai o ymwelwyr er gwaethaf y tywydd sych

Ymbarel haul ar faes Eisteddfod Wedi'r glaw ddydd Llun, daeth yr haul allan ar faes Eisteddfod yr Urdd 2013 yng Nghilwendeg ar fore Mawrth.

Ychydig dros 19,000 ddaeth i faes eisteddfod yr Urdd ar ail ddiwrnod yr ŵyl.

Er bod hynny'n 5,137 yn llai na'r llynedd, mae cyfarwyddwr y digwyddiad, Aled Siôn, yn dweud eu bod yn hyderus o gyrraedd y targed ariannol.

Roedd 19,384 o ymwelwyr ar faes yr eisteddfod ar ddydd Mawrth 28 Mai 2013 o gymharu â 24,521 ddaeth i Lynllifon yn 2012.

Dywedodd Mr Siôn bod hynny i'w ddisgwyl o ystyried y glaw mawr ar y maes ar y Llun cyntaf.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod da," mynnodd. "Roeddem ni'n gallu gweld o nifer y ceir oedd yn dod mewn bod llai o geir.

"Beth sy'n galonogol yw ein bod ni ar darged incwm tocynnau."

Nod yr Urdd yw sicrhau 90,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos.

Dywedodd Mr Siôn bod eisteddfodau'r de yn tueddu i ddenu llai o ymwelwyr na rhai'r gogledd.

Er i'r Llun cyntaf ddioddef gwynt a glaw mawr, roedd y dydd Mawrth yn Sir Benfro yn ddiwrnod sych, heb gawod o law. Mae'r maes yn sych, a dim trafferthion traffig.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.