Y glaw wedi peidio ym Moncath

Y maes Mae'r tywydd yn fwy sych ar gyfer yr ail ddiwrnod o gystadlu

Mae'r glaw wedi peidio ar faes Eisteddfod yr Urdd, ac er bod un maes parcio wedi ei gau i'r cyhoedd, dyw'r trefnwyr ddim yn disgwyl trafferthion i eisteddfodwyr yr ail ddiwrnod.

Roedd glaw mawr ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl ar faes fferm Cilwendeg ar 27 Mai, gyda nifer o yrwyr yn cael trafferth gadael y maes parcio.

"Mae yna un maes parcio ar ôl ddoe, dy'n ni ddim yn defnyddio hwnnw," eglurodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn. "Roedd ychydig o drafferth mynd mas ddoe."

Ond mae'r trefnydd yn hyderus bod y sefyllfa o dan reolaeth ac maen nhw'n "newid ac yn addasu" i sicrhau bod yr ŵyl yn symud yn llyfn.

Caeau parcio Roedd y caeau parcio yn fwdlyd wedi'r glaw ddydd Llun

Ychwanegodd bod dau gyn chwaraewr rhyngwladol gyda chriw Clwb Rygbi Crymych yn cadw rheolaeth ar draffig y meysydd parcio.

Mae Kevin Phillips a John Davies yn cyfeirio'r eisteddfodwyr i'w priod lefydd parcio.

Dywedodd Mr Siôn bod 3,000 o geir wedi defnyddio'r meysydd parcio o gymharu â 5,000 ym mharc Glynllifon yn 2012, pan fu trafferthion traffig enbyd.

Roedd dros 7,000 yn llai o ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf yr eisteddfod yn Sir Benfro o gymharu â'r llynedd hefyd.

Mynnodd y cyfarwyddwr bod yr ŵyl yn llwyddiannus tu hwnt, gyda 500 o blant yn cystadlu yn y gystadleuaeth Cân Actol - enillwyd gan Ysgol Pen Cae, Caerdydd.

Nos Lun felly, roedd mwy nag a ddaeth i'r eisteddfod gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yn gyfan gwbl yn cystadlu mewn un gystadleuaeth.

Mwy Am y Stori Hon

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.