Mae Mark Bridger yn rhoi tystiolaeth am y trydydd diwrnod

Mark Bridger Mae Mark Bridger yn gwadu iddo lofruddio April Jones

Related Stories

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio a herwgipio merch bum mlwydd oed yn rhoi tystiolaeth o flaen y llys am y trydydd diwrnod.

Mae Mark Bridger sydd yn 47 oed o Geinws, Powys yn gwadu'r cyhuddiadau.

Fe ddiflannodd April Jones wrth chwarae gyda'i ffrindiau ger ei thŷ ar 1 Hydref 2012.

Mae'n dweud iddo ei bwrw ar ddamwain gyda'i gar ac nad ydyw'n cofio be wnaeth o gyda'i chorff.

Dyw'r ferch fach erioed wedi cael ei chanfod er y chwilio amdani.

Mae Mr Bridger yn parhau i gael ei groesholi gan yr erlynydd Elwen Evans QC ddydd Gwener.

'Dim cof'

Ddydd Iau fe ofynnodd Ms Evans iddo os oedd o yn bedoffeil. Yr ateb oedd: "Nac ydw."

Mi ddywedodd ei fod mewn panig ar ôl iddo ei bwrw ac nad oedd yn cofio am faint o amser y buodd yn ceisio ei adfywio.

Dywedodd Mr Bridger nad oedd chwaith yn cofio beth oedd o wedi gwneud gyda chorff April.

Ond yn y llys fe honnodd Ms Evans nad oedd yn medru cofio digwyddiadau'r noson honno am ei fod yn gwybod mai "nonsens llwyr" oedd y stori yr oedd o wedi ei ddweud wrth yr heddlu.

Gwaed

Fe glywodd y rheithgor yn gynharach bod gwaed April wedi ei ddarganfod mewn sawl lle yn nhŷ Mark Bridger.

Mae o yn gwadu ei fod wedi mynd ati i lanhau'r lle er mwyn ceisio cael gwared â'r dystiolaeth.

Mae'r achos yn parhau.

More on This Story

Related Stories

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.