Record presenoldeb y teulu James yn parhau

Aelodau o'r teulu Dyw Aled James ddim wedi colli dim un diwrnod o'r ysgol fel ei frawd, ei fam a'i hen famgu

Mae bachgen ifanc o Grymych wedi cyflawni dipyn o gamp. Ers cychwyn ei addysg dyw Aled James, sydd yn 18 oed, heb golli yr un diwrnod o'r ysgol.

Ond nid y fo ydy'r unig aelod o'r teulu i gael presenoldeb perffaith tra'n ddisgybl. Mi oedd ei frawd Carwyn, ei fam Anne a'i hen fam-gu Nellie yn yr ysgol bob diwrnod hefyd.

Dyw Cyngor Sir Benfro ddim yn gwybod am unrhyw deulu arall sydd wedi llwyddo i wneud hyn dros gyfnod o 80 mlynedd a hynny ar draws tair cenhedlaeth.

"Dw i'n mwynhau mynd i'r ysgol... mae e fel ail deulu i fi a mi fyddai yn drist pan y byddai yn gadael," meddai Aled sydd yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Y Preseli erbyn hyn.

"Mae pobl yn dweud o fewn yr ardal ein bod ni wastad ar amser ar gyfer popeth a wnaeth e byth daro fy mhen i i beidio mynd. Chi jest yn codi a mynd. Fe fydd e yn brofiad od peidio mynd i'r ysgol.

Aled James Mae Aled James yn bwriadu treulio mwy o amser ar ffarm y teulu pan y bydd yn gorffen yn yr ysgol yn yr haf

"Dw i'n lwcus hefyd fy mod i ddim yn sâl yn aml... byth dim byd difrifol."

Mae pennaeth chweched dosbarth Ysgol Y Preseli wedi dweud bod y bachgen, sydd yn byw ar ffarm yng Nghrymych yn esiampl wych ar gyfer disgyblion eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Ken Rowlands: "Mae record Aled a'i frawd hyn Carwyn yn lwyddiant ysgubol yn enwedig y dyddiau yma.

"Rydyn ni yn clywed gymaint am driwantiaeth a phobl ifanc yn drwgweithredu mae'n bwysig i gofio faint ohonyn nhw sydd yn cyflawni pethau da sydd yn haeddu canmoliaeth."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • BBC Cymru FywGwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw

    Mae BBC Cymru yn gwneud newidiadau i'r wefan hon wrth i wasanaeth ar-lein newydd o'r enw BBC Cymru Fyw gael ei lansio.


  • Hel achau ym MangorCyfle i hel achau ym Mhrifysgol Bangor

    Gall unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor.


  • Minci AmericanaiddPwy sydd wedi gweld minc?

    Cadwriaethwyr yn galw am gymorth y cyhoedd wrth geisio lleihau nifer y mincod Americanaidd er mwyn gwarchod anifail prin.


  • Portread o William ShakespeareShakespeare: 'Gwedd wahanol' i Gymru?

    A ddylid addasu Shakespeare i'r Gymraeg? Mae arbenigwyr yn rhannu eu barn wrth i'r dathliadau swyddogol ddechrau i nodi 450 o flynyddoedd ers geni'r bardd.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.