Cwmni dur: Colledion o £780m

Straeon Perthnasol

Fe wnaeth cwmni dur Tata golled o £780m yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Roedd y cwmni wedi gwneud elw o £50m yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd llefarydd fod y colledion yn Ewrop wedi cyfrannu i raddau helaeth at y canlyniadau gwael.

Cafodd gwerth Tata ei leihau'n sylweddol y mis diwethaf oherwydd gwerthiant yn Ewrop.

'Dirywiad'

"Y dirywiad economaidd Ewrop y llynedd effeithiodd ar y galw am ddur Ewropeaidd ...," meddai llefarydd ar ran Tata Steel Europe.

Yng Nghymru mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 7,000.

Dywedodd Elis Roberts, Gohebydd Busnes BBC Cymru: "Doedd dim disgwyl i'r canlyniadau fod yn dda.

"Mae'r galw am ddur yn Ewrop 30% yn llai nag yr oedd bum mlynedd yn ôl.

"Ac mae'n amlwg bod Tata'n dal i deimlo hynny."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.