Woolwich: Lee Rigby o Fanceinion oedd y milwr fu farw

Lee Rigby Roedd Lee Rigby yn 25 oed

Related Stories

Cyhoeddwyd mai Lee Rigby o Ail Fataliwn Catrawd Frenhinol y Ffiwsilwyr oedd y milwr gafodd ei ladd mewn ymosodiad ar stryd yn Llundain.

Roedd y milwr 25 oed o Fanceinion wedi ymladd yn Affganistan.

Ynghynt datgelwyd bod y gwasanaethau diogelwch yn gwybod am y ddau ddyn sy'n cael eu hamau o ladd Mr Rigby yn Woolwich.

Deellir mai dyn 28 mlwydd oed, Michael Adebolajo, oedd un ohonyn nhw.

Ysbyty

Mae yntau a dyn arall wedi eu harestio ac yn yr ysbyty wedi iddyn nhw gael eu saethu gan yr heddlu.

Mae dau arall wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Cafodd un dyn ei ffilmio yn dweud ei fod wedi cyflawni'r ymosodiad gan fod milwyr o Brydain yn lladd Moslemiaid bob dydd.

Dywedodd ffynonellau fod adroddiadau fod y dynion wedi bod yn rhan o "sawl ymchwiliad" dros y blynyddoedd diwethaf ond nad oedd yr awdurdodau'n credu eu bod nhw yn cynllunio ymosodiad "ddim yn anghywir".

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: "Un o'r ffyrdd gorau o drechu terfysgaeth yw parhau â'n bywydau normal."

Dywedodd nad oedd yna gyfiawnhad o fewn Islam ar gyfer yr ymosodiad.

Ar draws Llundain mae 1,200 o blismyn ychwanegol ar ddyletswydd.

Yn ôl llygad-dystion ymosododd dau ddyn ar y milwr ger barics Woolwich. Roedden nhw'n defnyddio cyllyll ac yn gweiddi 'Allahu Akbar'.

Wedi'r ymosodiad, wnaeth y ddau ddim ymgais i ffoi, ac fe wnaethon nhw annog pobl i dynnu eu lluniau nhw a'r dyn fu farw.

'Llygad am lygad'

Mae ITV News wedi derbyn ffilm sy'n dangos un dyn yn gwneud datganiadau gwleidyddol.

Wrth ymweld â'r safle, dywedodd maer Llundain Boris Johnson y byddai'n anghywir beio naill ai Islam neu bolisi tramor Prydain.

Dywedodd Cyngor Moslemaidd Prydain Fawr: "Mae hon yn weithred wirioneddol farbaraidd sydd heb sail mewn Islam ac rydym yn ei chondemnio yn ddiamod."

Yn ôl y Gweinidog Cymunedau, y Farwnes Warsi, fe fydd yna wastad "unigolion a grwpiau sy'n ceisio defnyddio amseroedd fel hyn i'n rhannu... ond yr hyn rwy'n meddwl rydyn ni'n ei weld yn sgil y drasiedi hon yw cymunedau ffydd yn uno gyda'i gilydd ac yn dod ynghyd i gondemnio hyn."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai'r digwyddiad yn cael ei gondemnio gan gymunedau ar draws Cymru.

"Fel cadeirydd y Fforwm Cymunedau Ffydd, rwy'n falch fod Cymru'n wlad aml-ddiwylliannol sy'n mwynhau'r profiadau a'r egni y mae hynny'n ei roi i'n gwlad.

"Nid dyma'r amser i bwyntio bys ... ond amser i adeiladu ar undod cryf ein cymunedau a herio hanfod yr ymosodiadau barbaraidd hyn."

More on This Story

Related Stories

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.