1700 yn "cefnogi" dau o reolwyr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

[an error occurred while processing this directive]
Deiseb yn cefnogi dau o reolwyr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth sydd yn honedig wedi eu hatal o'r gwaith Deiseb yn cefnogi dau o reolwyr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth sydd yn honedig wedi eu hatal o'r gwaith

Straeon Perthnasol

Mae deiseb wedi ei chyflwyno i Brifysgol Aberystwyth yn cefnogi dau o reolwyr Canolfan Gelfyddydau'r dre sydd yn honedig wedi eu hatal o'u gwaith.

Mae'r ddeiseb sydd wedi ei harwyddo gan 1749 o bobl yn cael ei chyflwyno i'r Is-Ganghellor gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae'r ddeiseb yn galw ar y brifysgol i adael i'r ddau reolwr ail afael a'u dyletswyddau.

Dydi'r Brifysgol ddim wedi cadarnhau na gwadu bod unrhyw aelod o staff Canolfan y Celfyddydau wedi eu hatal o'r gwaith.

Ym mis Chwefror daeth yr heddlu a digwyddiad cerddoriaeth ddawns i ben yn y ganolfan ar ôl iddyn nhw ddeall bod babi yn y gynulleidfa.

Dywedodd y Brifysgol bod digwyddiad y Black House wedi ei stopio er mwyn i blismyn ddod o hyd i fam a babi. Ond mae'n debyg bod y ddau wedi gadael yr adeilad cyn i'r heddlu gyrraedd.

Cafodd y ddeiseb ei dechrau gan Stephen West.

"Tanseilio"

Mae Mr West yn honni bod y Brifysgol yn tanseilio gwaith y ganolfan trwy atal dau o'r uwch reolwyr o'u gwaith.

Mae'r ddeiseb yn galw ar y Brifysgol i adael i'r Cyfarwyddwr Alan Hewson a'r Rheolwr Gweithrediadau Auriel Martin gael ail afael yn eu dyletswyddau.

Mae Gillian Clarke, o Landysul, Ceredigion, yn cefnogi'r ddau swyddog. Ar wefan y ddeiseb mae hi'n dweud:

"Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw calon bywyd diwylliannol yng Ngheredigion"

Ar y wefan hefyd mae Stephen West yn honni bod y rheolwyr wedi eu hatal o'r gwaith mewn cyfnod pan mae'r brifysgol yn ystyried ail strwythuro. Mae'n cyhuddo swyddogion o "guddio tu ôl i fater cyfrinachedd" er mwyn osgoi egluro'r cynlluniau.

Ymateb y Brifysgol

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd y Brifysgol:

"Dyw Prifysgol Aberystwyth ddim wedi cadarnhau na gwadu honiadau mewn unrhyw ddatganiad cyhoeddus bod staff y Ganolfan Gelfyddydau wedi eu hatal o'u gwaith. Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny."

Mae'r Brifysgol hefyd yn gwadu'n llwyr fod yna gynlluniau ar droed i gyfyngu ar allu'r cyhoedd a'r gymuned leol i ddefnyddio'r ganolfan.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.