Llais amlwg i arwain pwyllgor gwaith Eisteddfod Maldwyn 2015

Beryl Vaughan Bydd Beryl Vaughan yn cychwyn ar ei gwaith fel cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Maldwyn 2015 yn syth

Straeon Perthnasol

Mae cyn gynghorydd gyda Chyngor Powys wedi'i hethol yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2015 ym Maldwyn.

Cafodd Beryl Vaughan ei hethol i'r rôl mewn cyfarfod yn Llanfair Caereinion nos Lun.

Roedd tua 120 o bobl wedi dod i'r cyfarfod i glywed mwy am y Brifwyl ymhen dwy flynedd, a fydd yn cael ei chynnal ar dir Mathrafal, Meifod - cartref yr Eisteddfod ddeng mlynedd yn ôl yn 2003.

Bydd Mrs Vaughan yn cychwyn ar y gwaith o arwain presenoldeb yr Eisteddfod yn lleol a chodi ymwybyddiaeth ac arian tuag at y gronfa leol yn syth.

Roedd rhywfaint o waith paratoi eisoes wedi'i wneud yn hyrwyddo'r cyfarfod ac yn tynnu sylw at y ffaith bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i'r ardal.

'Ar flaen y gad'

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, yn y cyfarfod nos Lun:

"Atgofion hapus sydd gen i o'n cyfnod ni'n gweithio gyda thrigolion Maldwyn. Cawsom gefnogaeth a chydweithrediad ardderchog yn ystod ein cyfnod yma, a braf yw dychwelyd i gyhoeddi ein bwriad i gynnal yr Eisteddfod yma o 31 Gorffennaf - 8 Awst 2015.

"Rwyf hefyd yn falch iawn bod Beryl Vaughan wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, ac yn dymuno'n arbennig o dda iddi dros y ddwy flynedd nesaf.

"Bu Beryl yn un o'r rheini a fu'n annog yr Eisteddfod i ddychwelyd i Faldwyn, bron ers diwrnod olaf ein hymweliad diwethaf. Mae hi'n gweld gwerth gwirioneddol cynnal y Brifwyl yn lleol, a da o beth yw ei chael ar flaen y gad yn arwain y paratoadau am y cyfnod nesaf."

Bydd y cyfarfod i ethol swyddogion ar gyfer pwyllgorau'r Eisteddfod yn cael ei gynnal nos Lun, 3 Mehefin.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.