Ynys Môn: Dyddiad cau enwebiadau

Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn Bu'r awdurdod o dan reolaeth comisiynwyr ers Mawrth 2011

Straeon Perthnasol

Dydd Gwener yw'r dyddiad cau o ran cynnig enwebiadau ar gyfer etholiadau cyngor Môn.

Fe fydd yr etholiadau'n cael eu cynnal ar Fai 2.

Cafodd comisiynwyr eu penodi gan Weinidog Llywodraeth Leol Cymru i redeg yr awdurdod ym mis Mawrth 2011 wedi cyfres o adroddiadau ac archwiliadau beirniadol iawn o'r cyngor.

Ym mis Chwefror cyhoeddodd y gweinidog ei fod yn gobeithio dod â'r ymyrraeth yna i ben ddiwedd mis Mai.

Cafodd Ynys Môn ei heithrio o etholiadau cynghorau gweddill Cymru'r llynedd oherwydd y trafferthion yno.

Mae nifer y cynghorwyr ar Ynys Môn yn gostwng o 40 i 30 a bydd 11 ward newydd yn cael eu creu wrth i'r ffiniau newid.

Bydd wyth o'r 11 ward newydd yn cael eu cynrychioli gan dri chynghorydd sir a'r tair arall yn cael eu cynrychioli gan ddau gynghorydd sir.

Penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn drwy fwyafrif i dderbyn cynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.