Sefydlu ardal debyg i'r Gaeltacht yng Nghymru?

Enwau strydoedd yn Saesneg a'r Wyddeleg Mae tua 80,000 o bobl yn honni eu bod yn defnyddio'r Wyddeleg bob dydd yn Iwerddon

Straeon Perthnasol

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid gwneud ymchwil cyn gynted â phosib i'r syniad o greu rhanbarthau penodol fyddai'n gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg, tebyg i ardal y Gaeltacht yn Iwerddon.

Wrth siarad â rhaglen Taro 9, dywedodd Meri Huws, ei bod yn cytuno "bod angen i ni edrych yn gloi ar y math yma o fodel".

"Dwi ddim wedi cael fy mherswadio ar hyn o bryd.

"Ond mae eisiau i ni wneud ymchwil penodol iawn, ac yn gloi iawn, i edrych ar be fydde' Gaeltacht yn edrych fel pe bai'r model yna'n cael ei drosglwyddo i Gymru."

Yn gynharach yn y mis, galwodd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price am sefydlu un awdurdod rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru.

Un awdurdod?

Ond mewn cyfweliad â rhaglen BBC Cymru Taro 9, aeth Mr Price gam ymhellach, trwy ddweud y dylai rhanbarth o'r fath gynnwys pob un o gadarnleoedd y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.

"Mae angen creu awdurdod rhanbarthol ar gyfer y bröydd Cymraeg.....yn lle ad-drefnu'r gogledd a'r gorllewin ar wahân yn y bröydd Cymreig, gadewch i ni gymryd y cyfle hwn nawr i greu un awdurdod ar hyd Bae Ceredigion i uno'r ardaloedd Cymreig a chreu awdurdod cryf gyda phwerau cynllunio iaith a hefyd datblygu economaidd," meddai.

Byddai'r syniad yn debyg i ranbarth y Gaeltacht - ardal benodedig o Iwerddon, ble mae'r Wyddeleg yn cael ei chefnogi gan gyfres o fesurau i sicrhau ei pharhad fel iaith gymunedol fyw.

Aeth rhaglen Taro 9 i Orllewin Iwerddon i weld a fyddai modd i Gymru ddysgu gwersi o'r strategaeth hon, yn enwedig yng nghadarnleoedd yr iaith yn y gogledd a'r gorllewin.

Cefnogaeth 'gadarnhaol'

Mae Gwyneth Ui Ghaora, yn wreiddiol o Gymru, yn byw yng nghanol Connemara ac yn dysgu arlunio trwy gyfrwng y Wyddeleg.

Dywedodd ei fod wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae'r ardal wedi'i gael ar yr iaith.

"Mae'r Wyddeleg yn yr ysgolion yn ddiamod, a does dim cwestiynau am hynny o gwbl...Dyma sy'n beth cadarnhaol ynglŷn â chael ardal sydd wedi'i dynodi yn ardal ar gyfer yr iaith," meddai.

"Bydde'r gefnogaeth fydde 'Cymraegtacht' yn ei roi i'r iaith yn beth cadarnhaol iawn."

Fe siaradodd Taro 9 hefyd â Seán Ó Cuirreáin, Comisiynydd y Wyddeleg, a ddywedodd:

"Dwi'n credu bod rhai agweddau positif wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd, sydd wedi cadw'r Wyddeleg yn fyw fel iaith gymunedol yma yn y Gaeltacht...Efallai fydde hi ddim wedi goroesi heb y statws hynny."

Bydd rhaglen Taro 9, 'Gaeltacht i Gymru?', i'w gweld ar S4C nos Fawrth am 9:00pm.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.