Pryderu rhieni ac ymgyrchwyr
Roedd cynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer addysg gynradd Gymraeg yn ardaloedd Treganna, Grangetown a Glan-yr-Afon yn cael eu trafod mewn cyfarfod cyhoeddus yn y ddinas nos Fawrth. Dyw'r cyngor ddim yn rhagweld y bydd hi'n bosib agor ysgol newydd i ateb y galw am addysg Gymraeg tan 2016. Felly y bwriad ydi ymestyn y trefniant dros-dro i dderbyn hyd at 90 o blant bob blwyddyn i Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd. Ond mae hynny'n pryderu rhieni ac ymgyrchwyr. Roedd Nia Tudur yn y cyfarfod ar ran BBC Cymru.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~59~RS~)
