Streic: 'Ildiwch ddiwrnod o gyflog'

Senedd Fe wnaeth yr aelodau weithio oriau hirach ddydd Mawrth

Straeon Perthnasol

Dylai aelodau cynulliad ildio cyflog diwrnod os nad ydynt yn y Senedd ddydd Mercher oherwydd streic gan weithwyr y sector cyhoeddus, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae newid yn amserlen y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher oherwydd bod aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn gwrthod croesi llinell biced.

Mae aelodau o undeb y PCS yn gweithredu oherwydd anghydfod ynglŷn â thâl, pensiynau a diswyddiadau.

Mae'r streic yn cael ei chynnal ar y diwrnod y bydd George Osborne yn cyflwyno ei gyllideb yn San Steffan.

'Methiannau'

Start Quote

Gallaf gydymdeimlo â gweithredoedd Undeb y PCS, ond mae gwleidyddion yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau yn eu cyfanrwydd”

End Quote Andrew RT Davies AC Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Yr unig fusnes sydd i'w drafod ddydd Mercher yn y Senedd yw cynigion gan y Ceidwadwyr yn beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru o "fethiannau cyson ym meysydd iechyd, addysg a'r economi".

Cafodd cwestiynau i aelodau'r cabinet, sydd fel arfer yn cael eu clywed ar bnawn Mercher, eu clywed ddydd Mawrth.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, y dylai rhai ACau "dyfu i fyny", ond mae Llafur wedi dweud bod ei sylwadau yn "sarhad" ar weithwyr y sector cyhoeddus.

Dywedodd Mr Davies: "Gallaf gydymdeimlo â gweithredoedd Undeb y PCS, ond mae gwleidyddion yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau yn eu cyfanrwydd.

"Wedi'r cyfan, dyw'r lle hwn ond yn eistedd am ddau ddiwrnod yr wythnos ar gyfer cyfarfod llawn."

Elusen

Start Quote

Bydd gweinidogion yn cynnal gwaith llywodraeth gan ddelio ag unrhyw faterion sy'n codi yn ystod y dydd ond ni fyddant yn croesi llinellau piced”

End Quote Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru

Dywedodd y dylai aelodau cynulliad sydd ddim yn mynychu eu gwaith ildio cyflog neu gyfrannu'r arian i elusen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai eu haelodau yn gweithio yn ôl eu harfer.

Wrth ysgrifennu ar wefan Twitter, dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, bod ei blaid wedi cefnogi'r undeb, ond y dylai'r undeb ystyried anghenion y cynulliad.

"Mae undod yn gweithio'r ddwy ffordd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gweinidogion yn cynnal gwaith llywodraeth gan ddelio ag unrhyw faterion sy'n codi yn ystod y dydd ond ni fyddant yn croesi llinellau piced."

Fe wnaeth aelodau cynulliad weithio oriau hirach ddydd Mawrth er mwyn sicrhau fod gwaith yr wythnos yn cael ei gwblhau.

Deellir bod y penderfyniad i aildrefnu'r amserlen wedi ei wneud gan bwyllgor busnes amlbleidiol y cynulliad.

2010

Nid dyma'r tro cyntaf i streic gan aelodau'r PCS amharu ar waith y cynulliad.

Ym mis Mawrth 2010 fe wnaeth aelodau Llafur a Phlaid Cymru wrthod croesi llinell biced.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi beirniadu penderfyniad yr undeb gan ddweud na fydd unrhyw un yn elwa o weithredu diwydiannol.

Maen nhw hefyd yn dadlau fod rhewi cyflogau wedi diogelu swyddi.

Mae'r undeb am gael codiad cyflog o 5% ac yn mynnu bod y llywodraeth yn rhoi'r gorau i gynlluniau i newid taliadau pensiwn.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.