Llewod: 'Mwy na 15 Cymro?'
Rhodri Llywelyn fu'n holi Stephen Jones yn Llundain.
Mae cyn-faswr a chyn-gapten tîm rygbi Cymru Stephen Jones wedi dweud ei fod yn gobeithioy bydd mwy na 15 o Gymry yn teithio i Awstralia gyda'r Llewod yn yr haf.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd y byddai hynny'n dangos cryfder y gêm yng Nghymru.
Hwn oedd ei gyfweliad Cymraeg cyntaf ers cyhoeddi'n gynharach eleni ei fod am roi'r gorau i chwarae rygbi proffesiynol.
Mae wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i fod yn aelod o dîm hyfforddi clwb Wasps yn Llundain.
'Sustem yn gweithio'“Start Quote
End Quote Stephen JonesFydd e'n beth gwych i rygbi Cymru - yn dangos y cryfder sydd gyda ni ac yn dangos bod pethe'n gweithio o safbwynt y rhanbarthau, yr academis - mae'n profi bod y sustem yng Nghymru yn gryf.”
Byddai'n anodd, meddai, dewis pa aelodau o'r tîm enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad fyddai ddim yn haeddu eu lle ar yr awyren.
Hyfforddwr y Llewod yw Warren Gatland sydd wedi cael caniatâd i adael ei swydd fel hyfforddwr Cymru am gyfnod er mwyn arwain y Llewod i Awstralia.
Dywedodd Stephen: "Dwi'n credu y gall pob un o dîm Cymru fod yn browd iawn o'u perfformiad ac, yn sicr, maen nhw wedi rhoi llaw lan i ddweud wrth Warren Gatland eu bod nhw am fod ar yr awyren.
"Fydd e'n beth gwych i rygbi Cymru - yn dangos y cryfder sydd gyda ni ac yn dangos bod pethe'n gweithio o safbwynt y rhanbarthau, yr academis - mae'n profi bod y sustem yng Nghymru yn gryf."
'Talent'Gofynnodd Rhodri Llywelyn beth oedd yr eglurhad am fethiant rhanbarthau Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken,
Dywedodd Stephen: "Eleni yn Ewrop mae wedi bod yn siom achos dyw'r rhanbarthau ddim wedi chwarae fel maen nhw'n gallu gwneud.
"Cyn hynny mae'r Gweilch wedi bod yn ffantastig yn y Rabo (Pro12) ac ry'n ni'n gwybod am y dalent sydd gyda'r Scarlets a'r Gleision.
"Ry'n ni'n gwybod y cryfder sydd gyda ni a gobeithio taw rhyw fath o 'blip' yw e ac y gwelwn ni pethau'n troi o gwmpas y tymor nesaf."
Ennill ei blwy'Soniodd hefyd am ei yrfa ym myd rygbi. Yn gynharach eleni cyhoeddodd ei fod am roi'r gorau i chwarae rygbi proffesiynol a'i fod wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i ymuno â thîm hyfforddi clwb Wasps yn Llundain.
Mynnodd y byddai'n rhaid iddo ddangos ei fod yn gallu bod yn hyfforddwr cyn ystyried dychwelyd i weithio yng Nghymru. Ennill ei blwy' fel hyfforddwr oedd ei unig nod yn y tymor byr, meddai.
Ond dywedodd y byddai bod yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn rhywbeth y byddai'n falch iawn o allu ei wneud yn y dyfodol.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~06~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf