Ysbytai Cymru wedi derbyn £9 miliwn o roddion ewyllys
Y rhodd fwyaf oedd £630,000 i wasanaethau gofal ym Mhowys
Cafodd bron i £9 miliwn o arian ewyllys ei adael i ysbytai yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Y rhodd fwyaf oedd £630,00 ar gyfer gwasanaethau gofal a lliniaru diwedd oes yng nghanolbarth a de Powys.
Hefyd roedd rhodd o £442,000 i uned radio therapi Singleton yn Abertawe a £168,000 ar gyfer gofal canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Dywed swyddogion fod y rhoddion annisgwyl yn gwneud gwahaniaeth mawr.
"Mae rhodd neu etifeddiaeth yn ein galluogi i brynu offer, cynnig hyfforddiant neu fynd ati i wneud gwaith hynod bwysig," meddai Kirsty Thomson, swyddog gyda Chronfa Betsi yng ngogledd Cymru.
Mae Cronfa Betsi yn gyfrifol am reoli 290 cronfa sy'n cefnogi'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd dan reolaeth Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Bwrdd Iechyd Cadwaladr, y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, wedi derbyn £4,272,042 yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Daw'r ffigyrau ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.
Rhoddion i Fyrddau Iechyd Cymru |
||||
|---|---|---|---|---|
| Bwrdd Iechyd | Rhodd mwyaf 2012 | Cyfanswm Rhoddion 2011-12 | Cyfanswm Rhoddion 2010-11 | Cyfanswm Rhoddion 2009-10 |
|
Ffynhonnell: Byrddau Iechyd |
||||
|
Abertawe Bro Morgannwg |
£442,900, uned radiotherapi Singleton, Abertawe. |
£635,736 |
£227,854 |
£276,584 |
|
Aneurin Bevan |
£65,849, uned y galon Nevill Hall, Y Fenni. |
£355,006 |
£221,990 |
£241,466 |
|
Betsi Cadwaladr |
£168,562 gwasanaethau, canser Glan Clwyd |
£1,635,617 |
£1,722,790 |
£913,635 |
|
Caerdydd a'r Fro |
Dim manylion |
£193,352 |
£459,520 |
£221,162 |
|
Cwm Taf |
£100,000 rhwng tri ysbyty |
£123,611 |
£82,419 |
£70,091 |
|
Hywel Dda |
£94,411 to Tŷ Hosbis Bryngwyn |
£313,719 |
£350,461 |
£98,835 |
|
Powys |
£630,000 i wasanaethau gofal a lliniaru Canol a De Powys |
£633,643 |
£8,370 |
£7,372 |
~RS~q~RS~~RS~z~RS~40~RS~)

AS 'yn gwadu pob honiad'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
'Chwalu'r myth'
Ar flaen eich bysedd
Hyrwyddo Maes B