Dyn 22 oed yn euog o ddynladdiad
Roedd Thomas Sutton yn 20 oed
Yn Llys y Goron Caerdydd cafwyd dyn yn ddieuog o lofruddio dyn arall ym Maesteg.
Ond cafwyd Stuart Worvell, 22 oed, yn euog o ddynladdiad Thomas Sutton gafodd ei drywanu naw gwaith.
Fe'i cafwyd yn ddieuog o geisio llofruddio Kyle Harris, 18 oed.
Bydd yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Benson-Davidson: "Heddiw rydym yn meddwl am deulu, perthnasau a ffrindiau Thomas Sutton sy'n gobeithio yn cael rhywfaint o gysur oherwydd penderfyniad y rheithgor.
"Roedd y digwyddiad hwn yn drychinebus achosodd ysgytwad a thristwch yn y gymuned.
"Ar ran yr heddlu, fe hoffwn ddiolch i''r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwil - ac i dystion yr erlyniad."
Clywodd y llys fod y diffynnydd yn gwrando ar gerddoriaeth yn y bath pan glywodd rywun yn curo drws y ffrynt.
Roedd Thomas Sutton yn meddwl bod parti yn y tŷ ond pan agorodd y diffynnydd y drws trywanodd Mr Sutton naw gwaith â chyllell gegin.
AmddiffynWedyn trywanodd Kyle Harris oedd wedi ceisio achub ei ffrind.
Yn y llys honnodd y diffynnydd ei fod wedi ceisio amddifyn ei hun am fod y ddau o'r Caerau wedi ceisio ei fwrw â darnau o bren.
Dywedodd Mr Harris wrth y llys nad oedd yn cofio'n iawn beth ddigwyddodd y noson dan sylw ond bod y ddau wedi galw yn y tŷ am fod angen sigarét.
Wedyn, meddai, roedd sgwrs rhwng Mr Sutton a'r diffynnydd.
Pan gafodd ei holi gan yr erlynydd Greg Taylor QC, dywedodd nad oedd y ddau'n cario arfau.
Disgrifiodd yr hyn ddigwyddodd pan welodd y gyllell.
"Roedd yn hir ... alla i ddim cofio'n iawn ... cafodd Thomas ei frifo ... roedd yn gweiddi ..."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~17~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf